Dysgl llysiau a phlât

Cynlluniwyd y ddysgl llysiau a’r plât hwn, c. 1930 gan Syr Frank Branwyn RA (1867-1956) a’u gwneud yn ffatri Royal Doulton, Swydd Stafford. Ganed Brangwyn yn Bruges i dad Seisnig a oedd yn ddylunydd eglwysig a gwneuthurwr cabinet, ac i fam Gymreig. Pan ddychwelodd y teulu i Lundain yn 1882, daeth Brangwyn yn brentis drafftiwr i William Morris a heb unrhyw hyfforddiant celfyddyd gain ffurfiol, cafodd ei gydnabod fel artist annibynnol. Yn 1885, yn 17 oed, derbyniwyd ei baentiad cyntaf gan yr Academi Frenhinol. Roedd hefyd yn wneuthurwr printiau toreithiog, darlunydd a dylunydd yn cynhyrchu dyluniadau ar gyfer dodrefn, carpedi a serameg.

Roedd crochenwaith Brangwyn yn boblogaidd rhwng 1930 a 1940. Gofynnodd Doulton i Brangwyn greu ystod o offer bwrdd a dyluniadau eraill ar eu cyfer. Dyluniodd batrwm ar gyfer y gwasanaeth cinio hwn ym 1930 a barhaodd i gael ei wneud am beth amser. Creodd y dyluniad ond nododd fod peintwyr y ffatri oedd yn addurno’r darnau yn cael rhywfaint o ryddid i ddehongli ei ddyluniadau.

Sefydlwyd Royal Doulton ym 1815 gan weithredu yn Vauxhall a Lambeth, Llundain cyn agor ffatri yn Burslem, Stoke on Trent. Rhwng 1853 a 1901, marciwyd y crochenwaith fel Doulton & Co., yna fel Royal Doulton o 1901 pan roddwyd gwarant frenhinol. Roedd yn un o’r gwneuthurwyr crochenwaith celf Prydeinig cyntaf oedd gyda diddordeb mewn nwyddau addurnol.

Mae nifer o amgueddfeydd Ewropeaidd a Phrydeinig wedi elwa o roddion gan Brangwyn gan gynnwys Prifysgol Bangor – rhoddwyd casgliad bychan o waith dyfrlliw, lluniadau, printiau a llyfrau iddynt ychydig cyn ei farwolaeth. Mae’r rhain yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Mae gan Storiel hefyd lun olew ‘Castell Carnarvon’ gan Brangwyn dyddiedig 1880au.

Mae arddangosfa o ysgythriadau, lithograffau ac ysgythriadau pren Brangwyn i’w gweld yn Storiel 29 Mehefin -28 Medi 2024.