A ninnau’n Amgueddfa Achrededig, rhif RD 1512, mae cadwraeth a gwaith rheoli casgliadau yn rhan hanfodol o waith STORIEL. Mae gennym nifer o bolisïau a chynlluniau sy’n llywio’r gwaith hwn. Maent yn cynnwys ein Polisi Datblygu Casgliadau sy’n ein harwain wrth benderfynu beth i’w dderbyn a beth i beidio â’i dderbyn i’r casgliad. Mae ein Polisi Gofal a Chadwraeth Casgliadau , ynghyd â Pholisi Dogfennu, Cynllun Dogfennu a Llawlyfr Gweithdrefnau STORIEL, yn cynnig arweiniad ynglŷn â’r ffordd y mae STORIEL yn dogfennu ac yn rheoli’r casgliadau wrth fynd ymlaen.
A ninnau’n dîm bychan, nid oes gennym swyddogion cadwraeth penodol. Felly, rydym yn defnyddio arbenigwyr a restrir ar gofrestr gadwraeth ICON pan fydd angen gwneud gwaith cadwraeth arbenigol.