Llestri Cofrodd

Adnabyddid llestri bychain, llwydwyn wedi’u haddurno â breichiau dinesig, arfbeisiau eraill neu wedi’u haddurno â phrintiau trosglwyddo fel Llestri Arfbais, Llestri Herodrol neu Llestri Cofrodd Herodrol.

Bu i’r chwyldro diwydiannol a dyfodiad y rheilffyrdd agor i fyny teithio i’r dosbarth gweithiol ac arweiniodd at dwf cyrchfannau glan môr. Yng nghyfnod Fictorianaidd ac Edwardaidd, roedd llawer o bobl yn hoffi dod â llestr cofrodd yn darlunio enw neu arfbais y lle yr oeddent yn ymweld ag ef adref efo nhw. Yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, daeth llestri bychain arfbeisiau a chofroddion mor boblogaidd nes bod y rhan fwyaf o aelwydydd y DU efo rhai yn eu cartrefi. Mae’r traddodiad o brynu cofrodd o gyrchfan wyliau wedi parhau hyd heddiw.

Gwnaed yr addurniadau hyn yn bennaf yn y crochendai o amgylch Stoke-on-Trent gan gwmnïau fel Arcadian, Carlton, Grafton, Savoy, Shelley, Swan, Willow Art. Ystyrid W.H. Goss fel yr ansawdd gorau. Mae addurniadau yn cynnwys ffigurynnau, gwrthrychau bob dydd neu wrthrychau swyddogaethol. Roedd rhai o’r arfbeisiau a ddangosir ar y llestri yn ddyluniadau answyddogol.

William Henry Goss (1833-1906) oedd perchennog crochenwaith Falcon yn Stoke-on-Trent a chafodd ei feibion Adolphus a Victor eu canmol am y syniad o wneud llestri cofrodd yn cynnwys arwyddair ac enwau cyrchfannau . Gwnaethant hefyd gopïau bychain o atyniadau ymwelwyr a phenddelwau bychain o bobl enwog. Mae gan Goss dilys arysgrif ar y gwaelod sy’n disgrifio’r eitem a hefyd arfbais gosog gyda’r enw W.H. Goss oddi tano.

Mae gan Storiel sawl enghraifft o’r math yma o lestri yn y casgliad o wahanol lefydd.