Helmed plismon

Mae eleni’n nodi 50 mlynedd ers i heddlu Gogledd Cymru gael ei ffurfio’n swyddogol ar 1 Ebrill 1974.

Yn ystod y Canol Oesoedd roedd troseddwyr yn cael eu cosbi’n llym ac, weithiau, yn gyhoeddus fel rhybudd i eraill. Yn aml, rhoddwyd pobl mewn rhigod neu gyffion neu eu cosbi’n gorfforol. Tua dechrau’r 19eg ganrif cyflwynwyd cwnstabliaid plwyf. Roedd y gwaith yn aml yn ormod iddynt. Ni allent ymdopi â’r helyntion fyddai’n codi o ganlyniad i’r chwyldro diwydiannol a byddai’r milisia’n aml yn cael eu galw i helpu.

Sefydlwyd Heddlu Sir Gaernarfon yn 1857 yn dilyn Deddf yr Heddlu 1856. Penodwyd T. P. Williams Ellis yn Brif Gwnstabl ar gyflog o £250 y flwyddyn gyda £50 at ei dreuliau. Dywedid bod y cwnstabliaid yn cael “llai o gyflog na chwarelwr ond mwy na gwas ffarm”.

Ffurfiwyd Heddlu Gwynedd yn 1950 trwy uno Heddlu Sir Gaernarfon, Heddlu Môn a Heddlu Sir Feirionnydd dan Ddeddf Heddlu 1946. Unwyd Heddlu Sir y Fflint a Heddlu Sir Ddinbych i’r llu yn 1967, er iddo gadw ei enw. Newidiwyd yr enw i Heddlu Gogledd Cymru yn 1974 pan ffurfiwyd siroedd newydd Gwynedd a Clwyd.

Yr helmed geidwadol yw’r benwisg a wisgir yn draddodiadol gan gwnstabliaid a rhingylliaid gwrywaidd tra ar batrôl droed yng Nghymru a Lloegr. Fe’i defnyddiwyd gyntaf gan Heddlu Metropolitan Llundain yn 1863 ac yn ystod y 1930au ceisiodd y Swyddfa Gartref safoni dyluniad yr helmedau. Defnyddiwyd bathodyn ar yr helmed hefo seren Brunswick (arwyddlun gyda seren gydag amlinelliad o wyth pwynt) gyda seiffr y brenin neu frenhines yn teyrnasu ac enw’r heddlu arno. Roedd amrywiadau i dop yr helmedau gyda thop rhosyn, darn metel siâp rhosyn i orchuddio’r twll awyru, yn cael ei ddefnyddio gan rai lluoedd. Mae’r helmed hon wedi’i gosod gyda thop pêl metel.

Roedd yr helmed hon yn eiddo i roddwr o Ddeganwy a fu’n gweithio fel Swyddog i Heddlu Gogledd Cymru.