
Math o fwyell sy’n gyffredin yn yr Oes Efydd Canol yw palstaf, a wnaed trwy doddi efydd tawdd mewn mowldiau dwy ran o gerrig neu efydd. Mae’r palstaf yma’n un o ddau a ganfuwyd yn y goedwig ger afon Cegin, islaw Maesgeirchen. Fe’i darganfuwyd ym mis Gorffennaf 1946 mewn twmpath o bridd a ollyngwyd o gloddfa ar safle ar gyfer tai parod ym Maesgeirchen, oedd yn ffinio â bwthyn Tyddyn Llwydyn. Roedd y darganfyddwr yn fab ifanc i breswylydd lleol a’i cyflwynodd i Amgueddfa Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Mae gan y palstaf un ddolen, sydd bellach wedi torri, ac mae o amrywiaeth adnabyddus sy’n arddangos yr hyn a elwir yn ‘batrwm tridant’ o asennau ar y ddau wyneb. Mae ganddo canol bach o flaen y cefnen stopio ac mae pennau’r llafn yn cael eu hymledu tuag allan ychydig. Gwnaed palstafau ym Mangor tua 1300 CC a darganfuwyd palstaf o fath tebyg yn Deansfield wrth ochr Afon Adda ynghyd â dau fowld ar gyfer castio palstafau (er o wahanol fathau).
Cyrhaeddodd gwybodaeth am waith metel a mwyngloddio Gymru tua 2,500 CC, o Iwerddon mae’n debyg. Cloddiwyd copr ar y Gogarth yn Llandudno ac ar Fynydd Parys yn Ynys Môn ac mae tystiolaeth yn dangos cynhyrchiad lleol o’r mwynau a’r gwneuthuriadau gorffenedig ar raddfa eithaf mawr. Palstafau oedd offeryn hanfodol y gweithiwr yn yr Oes Efydd Canol a newidiwyd effeithiolrwydd y dyluniad a’i wella dros y blynyddoedd.
Gwnaed y bwyeill fflat cynharach (fel y rhai o Landderfel a Threfriw) mewn mowld agored symlach. Ond roedd angen mowld dwbl ar y fwyell gantel o Borthaethwy. Mae’r addurn ar y fwyell gain hon yn arwydd bod offer metel yn dal i fod yn brin ac wedi’u gorffen yn unigol. Mewn cyferbyniad mae gorffeniad garw bwyelli Canol yr Oes Efydd (palstafau fel yr un o Maesgeirchen, Bangor ), yn dangos nad symbolau statws mohonynt mwyach ond offer gwaith bob dydd.