
Mae’r oriawr poced yma oedd yn berchen yn wreiddiol i Owen Owen(s) yn dyddio o gwmpas 1900. Ganwyd Owen Owen(s) ym Mangor, Sir Gaernarfon yn 1856 yn fab i saer coed llongau, Owen Owens o Gaergybi. Roedd y teulu yn byw yn 11, Strand Street, yn y rhan ddeheuol o Hirael ym Mangor ger ‘Port Penrhyn’. Yn y 1870au, dechreuodd Owen weithio fel saer llong gan forio dramor. Mae cofnod ohono’n gweithio fel saer coed ar y llong ‘Alice Platt’a deithiodd o Lerpwl i Melbourne, Awstralia yn 1880. Yn 1882 priododd Owen â Margaret Rowlands o Aberystwyth a ganwyd eu dwy ferch hynaf ym Mangor.
Symudodd Owen a’i deulu i Hoose i fod yn agos ar borthladd Lerpwl, ond ar ôl hyn rhoddodd gorau i forio a gweithio fel saer coed ar y tir. Yma ganwyd pedwar o blant arall iddynt. Erbyn dechrau’r 20fed ganrif symudodd y teulu i Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych gydag un morwyn, Catherine Hughes oedd yn enedigol o Fangor. Dewisodd Owen yrfa newydd yn ffermio yn gyntaf yn ‘Tŷ’n Twll’ ac wedyn yn ‘Plas Du’ ym mhlwyf Llanarmon-yn-Iâl.
Mae enw ‘M Wartksi’ ar flaen yr oriawr boced yma, ac fe’i gwnaethpwyd gan y Lancashire Watch Company. Yn y 19eg ganrif ymfudodd llawer o Iddewon i Brydain, gan ddianc rhag erledigaeth yn Nwyrain Ewrop. Ymgartrefodd sawl un ym Mangor a sefydlu busnesau llwyddiannus, gan ddod yn rhan o fywyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol yr ardal hefyd. Y ddau ffigwr enwocaf ym Mangor oedd Phillip Pollecoff a ymfudodd o Rwsia yn yr 1880au a sefydlu siopau llwyddiannus ym Mangor, Caernarfon a Phwllheli – mae’r siop ddillad ym Mhwllheli yn dal i fodoli- a Morris Wartski a agorodd siop gemwaith a dillad mân ym Mangor yn 1895. Roedd yn gychwyn ar ymerodraeth gemwaith nodedig iawn Wartski a oedd yn arbenigo mewn wyau Fabergé ar ddechrau’r 20fed ganrif. Elwodd o nawdd Edward VII a 5ed Ardalydd Môn lliwgar. Roedd mab Morris Wartski, Isidore yn faer Bangor.
Mae’r oriawr boced yma’n cael ei harddangos yn y cas cymunedol yn y cyntedd yn ystod mis Ionawr.