Gwregys achub

Gwregys achub oddi ar long hyfforddi y Clio oedd wedi ei angori ar y Fenai o 1877-1920. Roedd y llong hyfforddi wedi ei hanelu i ddarparu bechgyn o gefndiroedd difreintiedig gyda’r sgiliau angenrheidiol i wynebu bywyd ar y môr. Roedd hefyd yn ysgol ddiwygiadol ar gyfer bechgyn helbulus rhwng yr oedrannau o 12 i 16.

Cyrhaeddodd y Clio ar y Fenai ar ddydd Sadwrn, Awst 7fed, 1877 dan Gapten Moger RN o Gresffordd. Roedd hyn yn dilyn ddwy flynedd a hanner o gynllunio a thrafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd o sefydlu llong hyfforddi ar gyfer Gogledd Cymru. Cafwyd cefnogaeth eang gan y bonedd lleol, gan gynnwys yr Arglwydd Penrhyn, Esgob Bangor ac aelodau seneddol yr ardal, i’r lleoliad ar y Fenai.

Roedd bywyd ar y Clio yn galed ac roedd yn hanfodol cael trefn ddyddiol fel bod modd cadw rheolaeth ar long oedd yn cartrefu oddeutu 200 i 300 o fechgyn. Byddai’r bechgyn yn cael eu rhannu’n ddwy garfan (‘Watch’), sef y Chwith a’r Dde a wedyn i bum dosbarth yn ôl eu hoedran, ac yn dilyn y cwricwlwm yn ystod y dydd.

Yn ychwanegol i’w dosbarthiadau ar eu sgiliau sylfaenol yr oedd bechgyn y Clio yn gorfod gweithio ar y llong am oriau hir gan godi am 5 y bore i ddechrau ar eu gwaith. Yr oedd y dyletswyddau a gweithgareddau yn cynnwys – glanhau’r llong, ymarfer sgiliau morwrol e.e. clymu rhaffau, hwyliau, cwmpawd, daearyddiaeth, rhwyfo, trwsio hwyliau a dillad, ymarferion dril a ‘lifeboat practice’. Mae tystiolaeth hefyd eu bod yn nofio ac yn ymarfer ar offerynnau pres.

Mae erthyglau ym mhapurau Cymraeg o’r amser yn sôn am ddamweiniau angheuol a digwyddiadau ar fwrdd y llong. Ystyriwyd y Clio, ac ysgolion eraill tebyg fel dull o gartrefu ac addysgu bechgyn oedd angen lloches neu oedd yn ymddangos yn debygol o droi tuag at fywyd o ddrwg weithrediad a thor-cyfraith. Canran isel oedd y bechgyn lleol ar y Clio.