Cylch a ffon

Gêm neu degan boblogaidd a chwaraewyd yn Oes Fictoria oedd y cylch a ffon. Er bod y tegan / gêm hon yn edrych yn syml iawn, roedd yn boblogaidd iawn a nod y gêm oedd cadw’r cylch yn rholian cyhyd ag y bo modd. Byddai’r bachyn ar ddiwedd y ffon yn cael ei ddefnyddio i rolio’r cylch. Roedd plant teuluoedd dosbarth gweithiol yn dibynnu ar deganau cartref a gemau stryd fel modd o chwarae. Roeddent yn chwarae’r gêm hon y tu allan a sawl gwaith byddai’n cael ei chwarae fel cystadleuaeth rhwng sawl plentyn i weld pwy allai rolio’r cylch yn bellach.

Roedd rholio cylch – fel rhan o chwaraeon a fel gêm plentyn wedi’i chofnodi yn Affrica, Asia ac Ewrop. Fe’i cofnodwyd yn gyntaf gan y Groegiaid a’r Rhufeiniaid, ond mae paentiadau beddrod hynafol yr Aifft yn dangos bod plant yn chwarae gyda chylchoedd mor bell yn ôl â 2,500 CC. Yn Lloegr, gwyddom bod plant wedi bod yn chwarae’r gêm mor gynnar â’r 15fed ganrif. Erbyn diwedd y 18fed ganrif, roedd bechgyn oedd yn gyrru cylchoedd yn strydoedd Llundain wedi mynd yn niwsans cyhoeddus, ond methodd ymdrechion i gael gwared â’r arfer.

Parhaodd ei boblogrwydd ac fe’i cynhwyswyd fel rhan o’r addysg gorfforol safonol i ferched yn y 19eg ganrif. Ar ddechrau’r 20fed ganrif, roedd merched yn chwarae gyda cylchoedd pren gyda ffon bren, tra bod cylchoedd a ffyn bechgyn wedi’u gwneud o fetel. Yn aml roedd gof y pentref lleol yn gwneud cylchoedd allan o haearn i’r plant.

Mae’r gêm hon yn cynnwys tri chylch a ffon. Roedd y perchennog gwreiddiol o Aberdaron, ac o bosib fe’i gwnaed gan gof lleol. Mae un o’r cylchoedd a’r ffon i’w gweld yn Oriel 4.