
Dyma enghraifft o gêm fwrdd a wnaed gan filwyr a morwyr anabl yng Ngweithdai Coffa’r Arglwydd Roberts rhwng 1919 a 1939. Mae gemau bwrdd wedi bod yn fath o adloniant ers canrifoedd, ac mae’n parhau i fod yn weithgaredd hamdden poblogaidd.
Cadfridog Prydeinig oedd y Maeslywydd Yr Arglwydd Roberts (1832-1914) a ddaeth yn un o gadlywyddion milwrol mwyaf llwyddiannus ei gyfnod. Enillodd Groes Victoria yn 1857, ac roedd wedi ymgyrchu ers tro am wneud mwy i gyn-filwyr, yn enwedig y rhai oedd yn anabl. Cymerodd ddiddordeb mawr yn y gweithdai a daeth yn un o’r Ymddiriedolwyr. Yn dilyn ei farwolaeth yn 1914, tra’n ymweld â milwyr yn Ffrainc, penderfynwyd, fel cofeb iddo, ehangu’r gweithdai a’u henwi ar ei ôl.
Erbyn 1920 roedd unarddeg o weithdai ledled y wlad yn cynhyrchu amrywiaeth eang o nwyddau gan gynnwys basgedi, teganau, gwelyau a dillad gwely a phob math o ddodrefn. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf mae’n rhaid bod miloedd o gyn-filwyr wedi’u hanafu, yn cystadlu am waith yn ystod cyfnod economaidd anodd y 1920au a’r 1930au. Cafodd tai doliau, dodrefn a gemau bwrdd fel Bombardo eu gwneud ar ôl y rhyfel ochr yn ochr â’r arferiad yn ystod y rhyfel o baentio milwyr tegan.
Mae’r gêm yn cynnwys bwrdd 3 plyg, peli lliw amrywiol i’w gosod mewn cynheiliaid gwifren, top troelli ac ymosodwr. Mae pob chwaraewr yn dewis lliw ac yna mae’r top yn cael ei droi gan actifadu’r ymosodwr sy’n taro rhai o’r cynheiliaid ac yn symud rhai o’r peli. Ar ôl i’r top orffen symud, y chwaraewr sydd â’r nifer fwyaf o beli yn weddill ar eu cynhalwyr yw’r enillydd.
Mae’r gêm bwrdd hon efo’r dyddiad 1929 ar glawr y bocs.