Ffrog briodas

Mae’r ffrog briodas yma’n dyddio i 1944. Roedd yn perthyn i Joan Morgan, Tregarth, a oedd yn gweithio fel athrawes fywydeg yn Ynys Manaw ar y pryd. Cafodd ei darpar ŵr, oedd yn gwasanaethu yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyfnod seibiant annisgwyl ac felly fe benderfynodd y ddau briodi ar unwaith.

Rhoddodd hi fenthyg arian iddi brynu modrwy dyweddio a phrynu y ffrog hon, sef yr unig un y gallai ddod o hyd iddi. Nododd Joan yn ei llyfr cownt iddi dalu 8 gini (£8.8s.8d) a 7 cwpon amdani.

Dengys y ffrog yma yr effaith gafodd yr Ail Ryfel Byd a dogni ffabrig ar ddillad. Mae’r ffrog, a brynwyd ar ôl i ddogni tecstilau ddechrau, yn defnyddio cyn lleied o ddefnydd ac oedd yn bosibl, ac nid yw’n ffrog briodas bwrpasol. Byddai aml i briodferch yn ceisio cael ffrog briodas i’r diwrnod yn unig – weithiau byddai defnydd sidan parasiwt yn cael ei ddefnyddio ac hen frodwaith yn cael ei ychwanegu, wedi ei ailgylchu o ddefnydd cynharach – hen ddillad smart a lês. Efallai bod maint y ffrog hefyd yn adlewyrchu effaith dogni bwyd.

Arweiniodd prinder bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd at ddogni bwyd i bawb ym Mhrydain. Cyflwynwyd llyfrau dogni ar Ionawr 8fed, 1940. Cig moch, ham, siwgr a menyn oedd y bwydydd cyntaf i gael eu dogni. Yna, dognwyd bwydydd eraill, a daeth tyfu eich llysiau eich hun yn arfer poblogaidd iawn. Yn dilyn y dogni bwyd, roedd poblogaeth Prydain yn deneuach a iachach.

Mae’r ffrog yma’n cael ei harddangos yn Oriel 5 yn y cas Rhyfeloedd Byd.