Cnociwr drws

Mae 2024 yn nodi pen-blwydd 140 Prifysgol Bangor, ac i ddathlu ei phen-blwydd, mae yna arddangosfa yn y cas cymunedol yng nghyntedd Storiel sydd yn cynnwys detholiad o eitemau yn ymwneud â hanes y Brifysgol o’r casgliad.

Agorodd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ar 18 Hydref, 1884. Gyda’r digwyddiad hwn gwireddwyd gobeithion a dyheadau llawer ers dyddiau Owain Glyndŵr am Brifysgol yng ngogledd Cymru. Mynychodd pumdeg wyth o fyfyrwyr y sefydliad pan gafodd ei sefydlu, ond heddiw mae ymhell dros 11,000 o fyfyrwyr yma o bob cwr o’r byd yn elwa o’r traddodiad Cymreig cryf sy’n credu yng ngwerth addysg i bawb.

Cartref cyntaf y Coleg oedd yn hen westy’r Penrhyn Arms, hen dafarn coets fawr ar brydles o Stad y Penrhyn. Ar y 18fed o Hydref 1884, gyda’r geiriau ‘Gorau Arf, Dysg’ uwchben y prif fynedfa, agorwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru yn swyddogol. Mae lluniau o’r seremoni agoriadol yn y cas. Bwriadwyd iddo fod yn gartref dros dro o’r cychwyn, ond aeth bron i ugain mlynedd heibio cyn y rhoddwyd y tir o’r safle presennol i adeiladu prifysgol newydd. Yn 1902 gwerthodd George Sholto Gordon, yr ail Arglwydd Penrhyn, tŷ Penrallt a’r tir o’i gwmpas i Gyngor Dinas Bangor. Dyma’r tir a roddwyd ar gyfer yr adeilad newydd.

Adeiladwyd Prif Adeilad y Celfyddydau rhwng 1907-1911 ar safle dŷ Penrallt. Credir bod tŵr y Prif Adeilad yn gorwedd ar union leoliad yr hen dŷ. Mae’r cnociwr drws yma’n pethyn i dŷ Penrallt.

Penrallt