Capsiwl amser

Comisiynwyd y capsiwl amser serameg yma yn 1998 i nodi pen-blwydd Soroptimyddion Clwb Bangor a’r Ardal yn 50 oed. Rhoddwyd eitemau’n cynrychioli gweithgareddau’r clwb dros y 50 mlynedd olaf yn y capsiwl gan ei selio. Y bwriad yw agor y capsiwl eto ymhen 25 mlynedd ac unwaith yn rhagor pan fo 50 mlynedd wedi mynd heibio.

Cafodd y capsiwl ei ddylunio a’i greu gan Simon Temblett, oedd yn astudio dylunio graffeg yng Ngholeg Menai. Mae’n dangos canghennau coeden, sy’n dal ŵy. Mae’r goden yn cynrychioli’r Fam Ddaear a’r gorffennol ac mae’r ŵy yn symbol o’r dyfodol. Roedd hwn yn ymddangos fel dyluniad priodol i nodi carreg filltir y clwb wrth symud i fileniwm newydd.

Mae’r Soroptimyddion Rhyngwladol yn sefydliad gwirfoddoli byd-eang a sefydlwyd yn 1921, ac mae ganddynt statws y Cenhedloedd Unedig. Heddiw, mae bron i 3000 o Glybiau Soroptimyddion ar hyd a lled y byd. Daeth yr enw Soroptimydd o’r enw Lladin ‘Soror‘ sy’n golygu chwaer, ac ‘optima‘ sy’n golygu y gorau. Y ffordd orau i gyfieithu Soroptimydd yw ‘y gorau i ferched’.

Sefydlwyd Soroptimyddion Rhyngwladol Bangor a’r Cylch drwy siarter yn 1948 dan lywyddiaeth Mrs Gladys Emyr Hughes. Yr Is-lywyddion cyntaf oedd y Fonesig Artemus Jones a Miss Marian Beaumont. Y clwb nawdd oedd Soroptimyddion Rhyngwladol Caer.

Yn ystod ei flwyddyn gyntaf aeth Clwb Bangor a’r Ardal ati ar unwaith i gasglu llofnodion i ddeiseb ‘bod merched yn cael yr hawl i eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi’ a rhoi anrheg o geffyl siglo (cost o £4.00) i Ward y Plant yn Ysbyty’r C&A ym Mangor.

Mae Soroptimyddion Bangor wedi bod yn brysur iawn yn y gymuned leol am 75 mlynedd yn cefnogi’r GIG a llawer o elusennau a sefydliadau lleol. Mae gan y clwb gyfarfod bob mis gyda siaradwyr gwadd ac yn ychwanegol at ddigwyddiadau codi arian maent yn cynnal amrediad o ddigwyddiadau cymdeithasol anffurfiol.

Mae’r capsiwl amser yn cael ei arddangos yn y cas Cymunedol fel rhan o arddangosfa i ddathlu pen-blwydd 75 mlynedd y clwb.