Cwpan Clwb Pêl-droed Dinas Bangor

Cwpan a gafodd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor am chwarae yng Ngynghrair Anglo Eidaleg 1978. Chwaraeodd Bobby Charlton, seren fawr Manchester United a Lloegr, ac un o gyfarwyddwyr Clwb Bangor ar y pryd, i dîm Bangor yn ystod y twrnamaint hwn.

Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor ym 1876 ac roedd yn un o’r clybiau hynaf yng Nghymru. Roedden nhw’n aelodau sylfaenol o sawl cynghrair gan gynnwys Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru, Cynghrair Genedlaethol Cymru, Cynghrair Genedlaethol Cymru (Gogledd), Uwch Gynghrair y Gogledd, Uwch Gynghrair y Gynghrair a Chynghrair Cymru, yn ogystal â chwarae yng nghystadleuaeth agoriadol Cwpan Cymru. Mae’r tîm wedi ennill Cwpan Cymru wyth gwaith ac Uwch Gynghrair Cymru dair, yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau Ewropeaidd. Fe ddaru nhw hefyd chwarae yng nghynghreiriau is pyramid Lloegr a clwb FA. Chwaraeodd y clwb yn Wembley yn rownd derfynol tlws FA Lloegr ym 1984, y clwb cyntaf o Gymru i chwarae yn Wembley ers Caerdydd ym 1927.

Yn draddodiadol lliwiau cartref y clwb oedd crysau, trowsusau byr a sanau glas brenhinol, er ei fod wedi amrywio dros y blynyddoedd. Mae cyn-chwaraewyr nodedig yn cynnwys Bobby Charlton a Neville Southall.

Cafodd y Clwb ei atal rhag unrhyw weithgaredd pêl-droed yn 2021 oherwydd anawsterau ariannol. Yn 2019 ffurfiodd Cymdeithas Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Bangor glwb pêl-droed newydd, Bangor 1876 i barhau i chwarae pêl-droed cystadleuol ym Mangor. Ar ddiwedd 2024 pleidleisiodd Cymdeithas y Cefnogwyr i newid enw’r clwb i Bangor City 1876.