Sêl

Sêl bres Ysgol Friars a elwid yn wreiddiol yn ‘Ysgol Ramadeg rhydd Geoffrey Glyn, Doethur yn y Gyfraith’, ond a enwyd yn ddiweddarach yn Ysgor Friars oherwydd y cyswllt efo’r Brodyr Du.

Sefydlwyd yr ysgol yn 1557 gan Geoffrey Glyn o Ynys Môn a oedd yn gyfreithiwr yn Llundain. Prynodd safle’r fynachlog ym Mangor a sefydlwyd gan Urdd Dominica yn yr 13eg ganrif. Caeodd y fynachlog ar ôl diddymu’r mynachlogydd. Yn ei ewyllys dyddiedig 8 Gorffennaf 1557 gadawodd yr eiddo a’i waddol tuag at sefydlu ysgol ramadeg i’w frawd William Glyn, Esgob Bangor a Maurice Griffith, Esgob Rochester. Bu farw’r ddau y flwyddyn ganlynol, ond trosglwyddodd yr ewyllys i bartïon eraill oedd yn gallu cyflawni bwriadau Geoffrey Glyn. Sefydlwyd yr ysgol yn ffurfiol pan dderbyniodd lythyrau patent gan Elizabeth I yn 1561. Cynhaliwyd yr ysgol o incwm ar waddol a adawyd gan Geoffrey Glyn.

Mae’r sêl yn dangos dyn yn eistedd mewn cadair fawr yn dal gwair mewn un llaw a gwialen gyda phêl yn y llall. Mae dau ysgolhaig o’i flaen mewn cotiau froc yn dal llyfrau. Mae’r ymyl wedi’i arysgrifio yn Lladin a wedi’i gyfieithu’n golygu ‘Sêl yr ysgol ramadeg rhydd ym Mangor’.

Yn 1789 o dan John Warren, Esgob Bangor, symudodd yr ysgol i safle yn agosach at y Stryd Fawr. Caeodd am gyfnod byr yn 1861 ond fe’i hailagorwyd ym 1866. Yn 1881, symudodd yr ysgol dros dro i Benmaenmawr er mwyn osgoi achosion o teiffoid. O dan Ddeddf Addysg Ganolradd Cymru 1889, cymerwyd yr ysgol o dan system y wladwriaeth.

Agorwyd ysgol newydd ar safle Ffriddoedd yn 1900. Hyd at 1971 roedd wedi gweithredu fel ysgol ramadeg i fechgyn ond yna daeth yn ysgol gyfun i fechgyn a merched. Erbyn hyn mae’n ysgol cyfrwng Saesneg ar safle Eithinog.