Corn Hirlas

Comisiynwyd y Corn Hirlas yma a wnaethpwyd gan Syr William Goscombe John gan Brifysgol Cymru i’w roi’n anrheg priodas i’w Dirprwy Is-ganghellor, Syr Isambard Owen. Priododd yn 1905, Ethel Holland-Thomas, o Cae’r Ffynnon, Talsarnau, Meironnydd. Yn draddodiadol, defnyddir Corn Hirlas fel rhan o seremoni Gorsedd y Beirdd. Cyflwynir y corn gan ‘Fam y Fro’ sy’n ei gynnig yn symbol o’r gwin a gynigir i groesawu’r Orsedd i’r fro.

Meddyg ac academydd oedd Syr Herbert Isambard Owen (1850-1927). Roedd yn ffigwr pwysig wrth greu Prifysgol Cymru ac ef oedd ei Dirprwy Is-ganghellor, 1894-1910. Bu hefyd yn ddylanwadol yn natblygiad Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn ôl Syr Harry Reichel Isambard Owen a feddyliodd am y syniad y dylid addasu strwythur Coleg Prifysgol Gogledd Cymru i’r cribau creigiog yn hytrach nag y dylid lefelu’r cribau i letya’r adeilad.

Cerflunydd Cymreig oedd William Goscombe John (1860-1952), a aned yng Nghaerdydd, ac roedd yn adnabyddus am ei gofebion cyhoeddus niferus. Cymerodd yr enw Goscombe o bentref yn Swydd Gaerloyw ger hen gartref ei fam. Roedd ei dad Thomas John yn saer coed yng Nghastell Caerdydd ac ymunodd William â’i dad tra hefyd yn astudio yn Ysgol Gelf Caerdydd. Yn ddiweddarach, astudiodd yn Llundain cyn teithio drwy Ewrop, gan fyw ym Mharis a gweithio gyda’r cerflunydd Ffrengig Rodin.

Fel cerflunydd, datblygodd John arddull unigryw ei hun tra’n parchu traddodiadau clasurol a ffurfiau cerflunwaith. Derbyniodd gomisiynau am bortreadau gan Gymry blaenllaw y dydd ond yn ogystal â nawdd lleol, denodd waith yn rhyngwladol. Dyluniodd Corn Hirlas ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1898 ac roedd yn un o sefydlwyr Amgueddfa Cymru.

Gellir gweld y Corn Hirlas hwn yn y cas Traddodiadau yn Oriel 4.