Pwced Bryncir

Mae’r bwced yma yn dyddio i’r 5ed – 6ed ganrif ac wedi cael ei gwneud allan o estyll ywen sydd yn cael eu dal efo’i gilydd hefo tri chylch efydd. Nid oes llawer o wybodaeth yn bodoli amdani, ac nid oes sicrwydd o’i phwrpas.

Cafwyd hyd i’r bwced mewn cors fawn yn Nhŷ’r Dewin ym 1881 gan David Rowland, ffermwr wrth gloddio mawn. Saif Tŷ’r Dewin filltir i’r gogledd-orllewin o orsaf reilffordd Bryncir ar y lein o Afon Wen i Gaernarfon. Rhoddodd y ffermwr y bwced i’r Parchedig John Owen, rheithor Llanfihangel y Pennant, ac wedi ei farwolaeth yn 1900 fe’i rhoddwyd gan ei weddw i’r Parchedig Evan Evans, rheithor Llansadwrn.

Mae symbolau wedi eu hysgythru yn ymddangos ar y tu allan a’r tu mewn i’r bwced. Mae seren pum pwynt neu ‘pentacle’ yn ymddangos tair gwaith. Mae’r pentacle wedi cael ei ddefnyddio fel symbol mewn gwahanol ddiwylliannau gan gynrychioli gwahanol ystyron a chysylltiadau. Fe’i cysylltir yn gyffredin â phaganiaeth ble’i defnyddir fel symbol o warchodaeth. Mae’r symbol yma hefyd yn digwydd ymhlith marciau’r saer maen yn Abaty Ystrad Fflur, ac ar garreg wedi’i hysgythru yn nhŵr y Pictiaid yn Burrian, Orkney. Roedd y 5ed a’r 6ed ganrif yng Nghymru yn cael ei hadnabod fel Oes y Seintiau gyda cyfodiad Cristnogaeth.

Rhoddwyd y bwced i’r Amgueddfa yn 1925 gan weddw rheithor Llansadwrn ac mae i’w gweld yn Oriel 3, yn y llinell amser archaeoleg.