Ysbienddrych

Ysbienddrych o eiddo R. Williams Parry, bardd a darlithydd. Ganed Robert Williams Parry (1884-1956) yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle. Gweithiodd fel athro cyn dod yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1922. Priododd yn 1923 ac ymgarterfu ym Methesda.

Fe’i adnabyddir fel un o feirdd gorau Cymru. Enillodd y gadair yn eisteddfod myfyrwyr Bangor am ei awdl ‘Cantre’r Gwaelod’ yn 1908. Mae’r gadair yma’n rhan o gasgliad Storiel ac yn cael ei harddangos ger Oriel 5. Yn 1910 enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn hefo’i awdl ‘Yr Haf’. Cyfeirir ato’n aml fel ‘Bardd yr Haf’ ar ôl yr awdl yma oedd yn rhan o’i gyfnod rhamantaidd.

Cyhoeddwyd dwy gyfrol o’i farddoniaeth, Yr Haf a Cherddi Eraill yn 1924, a Cerddi’r Gaeaf yn 1952.

Dangosodd R Williams Parry ddawn arbennig i arsylwi a chofnodi byd natur mewn barddoniaeth. Ceir sawl enghraifft o hyn gan gynnwys y gerdd ‘Sgyfarnog Trwy Sbienddrych’, 1928. Trwy’r ysbienddrych hwn y gwelodd y bardd yr ysgyfarnog yr ysgrifennodd amdani yn y gerdd hon. Mae’n nodi “Am rai blynyddoedd ar ôl i’m gwraig a minnau ymgartrefu ym Methesda, rhoes yr ysgyfarnog hon a’r ysbienddrych hwn lawer o bleser i mi” Cerddi’r Gaeaf  (Gwasg Gee).

Mae’r ysbienddrych yn cael ei arddangos yn Oriel 5 yn y cas Pobl Ysbrydoledig.