Yr Wyddfa o ger Borthmadog gan Henry Clarence Whaite c.1870

Roedd Henry Clarence Whaite, 1828-1912, yn arlunydd tirlun nodedig a oedd yn wreiddiol o Fanceinion. Roedd ei dad yn berchennog oriel gelf a busnes fframio lluniau, a hyfforddodd Whaite yn Ysgol Ddylunio Manceinion a’r Academi Frenhinol, Llundain. Ymwelodd â’r Swistir yn 1859, ac fe’i hysbrydolwyd gan y golygfeydd mynyddig. Roedd wedi ymweld â Chymru yn ei 20au cynnar, ond daeth i Fetws-y-coed yn 1851 a dechreuodd ei berthynas agos gyda’r wlad.

Ystyrir Betws-y coed fel y gymuned artistiaid cyntaf ym Mhrydain a denwyd arlunwyr fel Paul Sandby and J.M.W. Turner yno ers diwedd yr 18fed ganrif. Bu i’r arlunydd David Cox dreulio ei hafau yno o 1844, a bu i hyn annog artistiaid eraill i ymweld â’r ardal. Daeth y pentref yn gyrchfan poblogaidd i sawl arlunydd gan gynnwys Whaite, Thomas Collier, Lawrence Coppard a George Harrison. Denodd adeiladu’r rheilffordd yn y 1860au ragor o arlunwyr a thwristiaid ac fel yr aeth Betws-y-coed yn fwy prysur dechreuodd yr arlunwyr symud ar hyd Dyffryn Conwy. Arweiniodd hyn at Whaite i ddarganfod lleoliadau distawach yn ac o gwmpas Trefriw ble’r oedd wedi sefydlu wrth ymweld trwy’r 1860au.

Symudodd Whaite i Dyddyn Cynal ger Conwy yn 1870 gan briodi merch leol Jane Alice Griffiths. Roedd yn aelod o Gymdeithas Frenhinol Dyfrlliwiau, gan arddangos yn yr Academi Frenhinol, a daeth yn Llywydd cymdeithasau’r Academi Celf Frenhinol Gymreig ac Academi Manceinion. Chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad y byd celf Gymreig bu’n feirniad Eisteddfod am sawl blwyddyn.

Mae paentiadau Whaite yn canolbwyntio ar dirluniau ac yn dangos effaith natur neu o fywyd pob dydd y gymuned wledig yn Nyffryn Conwy. Arddangosodd arddull fywiog yn ei ddyfrlliwiau ac roedd yn nodedig am ei allu i ddal amodau tywydd cyfnewidiol.

Mae’r dyfrlliw yma yn rhodd gan Gyfeillion Storiel.