Y Colomennod gan Brenda Chamberlain

© stâd yr arlunydd.

Yn enedigol o Fangor, penderfynodd Brenda Chamberlain yn gynnar yn ei bywyd y buasai’n bod yn arlunydd ac awdur. Ar ôl gadael yr ysgol treuliodd chwe mis yn Copenhagen ble dylanwadwyd ar ei gwaith cynnar gan beintiadau Gauguin. Tra’n mynychu Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain cyfarfu ac yn ddiweddarach priododd cyd arlunydd John Petts. Symudodd y ddau i Lanllechid ac yn dilyn cyswllt efo’r bardd Alun Lewis, sefydlwyd gwasg Caseg gan gyhoeddi cerddi ac ysgythriadau pren. Bu iddynt ysgaru yn 1946.

Treuliodd Brenda rhwng 1946-1962 yn byw ar Ynys Enlli, yn peintio bywyd yr ynys gan arddangos gwaith yn orielau Llundain. Treuliodd sawl gaeaf yn yr Almaen gyda’i chyfaill mawr Karl von Laer. Er iddi fyw mewn nifer o fannau gwahanol anaml iawn y byddai yn peintio tirluniau, pobl oedd yn ei chyfareddu hi. Yn ystod ei chyfnod cynnar roedd ei ffigurau’n solet ac yn helaeth a’u lliwiau’n feiddgar. Mae Y Colomennod, cyfrwng cymysg ar bapur a beintiwyd yn 1953, yn adlewyrchu themâu y cyfnod yma.

Yn 1962 symudodd i ynys Groegaidd Hydra ble datblygodd ei gwaith i gyfuno barddoniaeth a delweddau. Datblygodd arddull ei pheintiadau o fod yn bortreadol i ffurf o fynegiant mwy haniaethol. Cafodd ei chyfareddu gan syniad o weddnewid cyrff yn greigiau yn y môr ac effaith goleuni drwy ddŵr hallt. Symudodd yn ôl i Fangor yn 1967, ond datblygodd ei gwaith i fod yn hynod o dywyll, gan adlewyrchu eu chyflwr meddwl.

Enillodd Brenda fedal Aur Celfyddyd Gain yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith efo’i pheintiadau. Bu iddi hi hefyd gyhoeddi barddoniaeth, llyfr o gerddi gyda darluniau a nofelau gan gynnwys cyfrif o’i bywyd ar Ynys Enlli. ‘Tide Race’ yn 1962.

Mae’r paentiad yma yn rhan o gasgliad mawr o luniau a roddwyd i Storiel gan Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2002.