
Hyd at hanner cyntaf yr 20fed ganrif roedd eithin yn ffynhonnell werthfawr o fwyd i geffylau a gwartheg. Fe’i cymysgwyd yn aml â gwellt, gwair neu fran a thybiwyd ei fod yn faethlon iawn. Tyfwyd caeau o eithin yn arbennig a gellid eu gwerthu am bris da.
Cynaeafwyd yr eithin pan oedd wedi bod yn tyfu am flwyddyn, yn hytrach na gadael iddo fynd yn ddryslwyn trwchus, sych o ddrain y bydd llwyni eithin yn troi iddynt os na chant eu cynaeafu.
Cyn cael ei ddefnyddio fel porthiant anifeiliaid roedd angen torri neu falu’r eithin i lawr. Y dull symlaf oedd gosod yr eithin mewn cafn carreg a’i falu hefo gordd bren. Defnyddiwyd torwyr hedion hefyd ble’r oedd yr eithin, weithiau wedi ei gymysgu â gwair, yn cael ei glampio i mewn i flwch pren y torrwr hedion, ac yna’n cael ei dorri â llafn gilotîn a weithredwyd â llaw.
Mae’r curwr eithin yma’n cyfuno’r ddau ddull o dorri a churo. Mae ganddo ddwy gyllell fetel cadarn sydd yn croesi wedi’u gosod ar ongl sgwâr i mewn i ben pren. Fe’i defnyddiwyd drwy daro i lawr ar yr eithin ar lawr pren. O ddiwedd yr 18fed ganrif defnyddiwyd olwynion dŵr i bweru melinau eithin neu ‘furze’ – roedd y curwyr eithin yn troi’n gyflym ac yn torri a chleisio’r eithin a oedd wedi ei roi i mewn i’r bwlch pren ynghlwm i’r mecanwaith.
Mae’r curwr eithin yma’n cael ei arddangos yng nghyntedd Storiel.