Telyn, 1854, o Glynllifon

Pedal Telyn pedal gothig cyngerdd masarnen ac aur, a wnaethpwyd gan Sebastian a Pierre Erard yn 1854 ac a brynwyd gan yr Arglwydd Newborough, Glynllifon yn 1855.

Roedd Glynllifon yn gartref i deulu’r Glynne a oedd yn honni eu bod yn ddisgynyddion Cilmin Troed-ddu. Yn y 1700au, priododd Syr Thomas Wynn o Foduan Francis, merch ac unig etifedd John Glynne o Glynllifon, felly’n uno stadau Boduan a Glynllifon. Bu i’w mab Syr John Wynn gaffael stadau Melai ac Abaty Maenan yn Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych trwy ei briodas efo Jane Wynne. Bu i’r cyfuniad o’r tair stad yma sefydlu Glynllifon fel y teulu mwyaf blaenllaw yn Sir Gaernarfon. Daeth eu mab Syr Thomas John Wynn yn Yr Arglwydd Newborough 1af yn 1776.

Adeiladwyd Plas Glynllifon, plasty mawreddog neo-glasurol yn y 1830/40au gan yr Arglwydd Newborough ar safle cyfres o dai cynharach. Yn 1948 gwerthwyd y stad i fasnachwr coed ac yn 1954 gwerthwyd y tŷ a’r parc i Gyngor Sir Caernarfon. Bu i rai adeiladau gael eu trosglwyddo i Goleg Merion Dwyfor yn ddiweddarach a’r plasty ei werthu i berchnogion preifat. Cyngor Gwynedd yw perchennog y parc ac mae ar agor i’r cyhoedd.

Roedd cwmni Erard yn arbenigo mewn gwneud pianos a thelynau gyda changen ym Mharis a Llundain. Roeddent yn mwynhau nawddogaeth gan Napoleon a’r Tywysog Rhaglyw. Yn 1833 dechreuodd Pierre wneud telynau mewn steil gothig oedd yn ffasiynol ar y pryd. Sebastian Erard oedd y gwneuthurwr telyn a ddyluniodd y system gweithredu dwbl ar gyfer y delyn sydd i’w weld gydag ychydig o addasiadau ar bob telyn fodern.

Defnyddiwyd y delyn, a brynwyd gan Spencer Buckley Wynn, 3ydd Barwn Newborough, mab Thomas Wynn a Maria Stella Petronilla Chiappini, ym mhlasty Glynllifon. Yn yr 1930au  gwerthwyd y delyn drwy arwerthiant yng Nglynllifon i deulu Ifanwy Williams, Porthmadog. Gadawyd y delyn i Storiel fel cymynrodd yn 2020.

Gellir gweld yr eitem yma yn arddangosfa CASGLU A CHADW yn STORIEL hyd nes 31 Rhagfyr, 2021.