
Gwnaethpwyd y tebot Gaudy Cymreig yma yn Swydd Stafford yn yr 19eg ganrif. Mae llestri Gaudy Cymreig yn nodweddiadol oherwydd y patrymau blodau o arddull arbennig, wedi eu hamlygu gan wydredd gloyw. Fel arfer mae’r lliwiau yn las tywyll, coch rhydlyd, melyn a gwyrdd. Credir bod y patrymau wedi cychwyn fel dynwarediad syml o borslen Imari Siapaneaidd a oedd hefo’r un palet lliw wedi eu hamlygu yn aur. Cynhyrchwyd llestri Imari yn Arita yn arbennig i’w hallforio i Ewrop ac roeddent yn boblogaidd iawn o ganol yr 1600au i’r 1700au cynnar. Roedd yn eitem foethus ddrud a dechreuwyd ei gopïo yn Tsieina ac Ewrop.
Gwnaethpwyd y mwyafrif o lestri Gaudy Cymreig yn Swydd Stafford, Lloegr rhwng 1820 a 1860 ac roedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru. Cynhyrchwyd canran fechan o lestri Gaudy yng Nghrochendy Cambrian, Abertawe ac yng Nghrochendy De Cymru, Llanelli o tua 1840.
Gelwir y patrwm ar y tebot Swydd Stafford yma yn batrwm tiwlip ac mae’n rhan o set llestri te. Roedd nifer o gartrefi yng Nghymru hefo llestri Gaudy Cymreig. Yn aml roeddent yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall fel y llestri yma o Gwrt y Llyn, Pentrefoelas a fu ym meddiant y teulu ers canol yr 19eg ganrif.
Roedd gwerthwyr o Swydd Stafford yn teithio i’r marchnadoedd Cymreig i werthu darnau o grochenwaith am brisiau yr oedd y rhan fwyaf o bobl yn gallu eu fforddio. Yn y dyfrlliw Diwrnod Marchnad ym Mangor a beintiwyd oddeutu 1868 gan Joseph Josiah Dodd ac sydd nawr yng nghasgliad Storiel, gwellir gweld stondin tsieina yn gwerthu llestri cartref.

Roedd llestri gloyw, hefo’i wydredd sglein metelaidd, yn boblogaidd yng Nghymru hefyd ac arddangoswyd y ddau fath o lestri fforddiadwy yn falch ar ddreseri pren, gan ddal y golau tân fflachiog. Gallai’r tsieina yma fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer yfed a bwyta, ond mae’r gwydreddau, yn enwedig y rhai metelaidd, yn gwisgo’n sydyn. Erbyn yr 19eg ganrif, te oedd y diod mwyaf cyffredin ym Mhrydain.