Pren staes

Gwnaethpwyd y pren staes cerfiedig yma yn 1777, yn ôl y dyddiad cynharaf sydd wedi ei gerfio ar y pren. Mae dyddiadau diweddarach, 1837 a 1850, wedi cael eu hychwanegu yn amrwd ar y cefn sydd yn cynnig ei fod yn drysor teuluol wedi ei basio i lawr o un genhedlaeth i’r llall. Defnyddiwyd fel anrheg i gariad fel sydd yn amlwg o’r cerfluniau o galonnau a blodau.

Defnyddiwyd prennau staes gan ferched wrth wisgo staesys (corsedau) tyn les wedi eu cyfnerthu. Rhoddwyd y pren staes i lawr canol ffrynt y corsed er mwyn sicrhau bod y gwisgwr yn cadw osgo unionsyth anhyblyg, ddim yn gallu plygu i lawr yn hawdd yn y gwasg na gwargamu. Cyflwynwyd staesys wedi eu hatgyfnerthu i Brydain gan Catherine o Aragon, gwraig gyntaf Harri VIII. Pwrpas y corsed oedd cael torso fflat silindraidd hefo’r fynwes yn fflat ac wedi ei chodi, siâp a welir mewn portreadau o ferched tan ddiwedd yr 18fed ganrif. Yn ogystal â’r pren canol mawr, roedd gweddill o’r corsed wedi cael ei atgyfnerthu hefo cyrs ac asgwrn morfil.

Mae gan y pren staes yma gerfiad o wyneb dyn hefo’i dafod yn hongian allan. Mae hyn a ble y buasai’n cael ei wisgo’n awgrymus o berthynas agos i ddod.

Mae’r pren staes yn cael ei arddangos yn Oriel 3 yn y cas uchafbwyntiau.