
Dyma fanylyn o un o sioliau Paisley Storiel o’r 19eg ganrif. Mae’r patrwm Paisley yn seiliedig ar fotiff hynafol o blanhigyn, sy’n cyfuno dyluniadau Mughal a Phersiaid. Yn wreiddiol defnyddiwyd y patrwm ar siolau a wisgwyd gan ddynion yn Cashmir. Dechreuwyd mewnforio’r sioliau Cashmiraidd i Ewrop gan yr East India Company, a chan deithwyr a oedd yn dychwelyd adref o India. Ceir y cyfeiriad cyntaf atynt yn cael eu gwisgo yn Ewrop mewn llythyr o 1767. Erbyn diwedd yr18eg ganrif, roedd y sioliau’n nodwedd ffasiwn unigryw i ferched eu gwisgo ac yn arwydd o gyfoeth a moethusrwydd.
Dechreuodd ffatrïoedd yn Ffrainc a Phrydain wneud eu fersiynau eu hunain rhwng 1775 ac 1785, gan gopïo ac addasu’r patrwm Cashmiraidd traddodiadol. Ym Mhrydain, yng Nghaeredin ac yn Norfolk oedd y canolfannau cynhyrchu yn wreiddiol. Yn 1805, dechreuodd gwehyddion sidan Paisley (tref fechan yn yr Alban) wneud siolau gan ddefnyddio’r patrwm enwog, ac o 1820, Paisley oedd y ganolfan fwyaf a oedd yn cynhyrchu siolau. Ym Mhrydain, gelwid y sioliau’n ‘Siolau Paisley’ lle bynnag yr oeddent wedi eu cynhyrchu, oherwydd y patrwm unigryw. Roedd y ffasiwn am siolau Paisley ar ei hanterth rhwng y 1840au a’r 1870au.
Ceir printiau o’r wisg Gymreig yng nghanol yr 19eg ganrif yn dangos merched dosbarth canol yn gwisgo’u siolau Paisley dros ffrogiau sidan ffasiynol, gyda het Gymreig. Wedi i’r ffasiwn am siolau Paisley anferthol dawelu yn y 1870au, fe ddaeth y siôl Paisley wedyn yn rhan o’r hyn a ystyrid yn wisg genedlaethol Gymreig.
Mae’r cas gwisgoedd yn Oriel 3 yn arddangos rhai a siolau Paisley sydd yng nghasgliad Storiel.
