
Dyma rhaglen y ddrama gyntaf a berfformiwyd yn Theatr y Gaiety, Plas Newydd, Môn.
Fe wnaeth Henry Cyril Paget, Pumed Marcwis Môn (1875 – 1905), droi capel y teulu ym Mhlas Newydd yn Theatr y Gaiety yn dilyn etifeddu’r teitl ac arian mawr ym 1898. Cafodd actorion proffesiynol eu denu o Lundain gan gyflogau uchel eithriadol, a byddai pobl leol yn derbyn tocynnau am ddim. Roedd Henry Paget wrth ei fodd yn perfformio a gwisgo i fyny, ac adwaenid ef fel ‘y Marcwis a ddawnsiai’, oherwydd y ddawns droellog, sarff-aidd a berfformiai fel rhan o’i sioeau.
Gwariodd ei etifeddiaeth a’i incwm o fusnes mwyngloddio teuluol yn gyflym ar nifer anhygoel o bethau moethus: gemau gwerth miloedd o bunnoedd, gwisgoedd cymhleth niferus i’w theatr, ceir, cychod ac anifeiliaid. Fe’i dyfarnwyd yn fethdalwr ym 1904 a chafodd ei orfodi i werthu ei gasgliad helaeth. Bu farw rai misoedd yn ddiweddarach, ac roedd ei etifeddion yn gyflym iawn i chwalu Theatr y Gaiety ac unrhyw femorabilia y gallent ddod o hyd iddo.
Mae Aladdin yn un o’r pantomeimiau mwyaf poblogaidd sydd yn seiliedig ar stori ‘Hanesion y Mil Noswaith’.
Mae’r rhaglen yma fel arfer yn cael ei arddangos yn Oriel 4, ond mae ar y funud yn cael ei arddangos yn yr arddangosfa ‘Cadwch ar Gau’.