
Roedd pyrsiau addurniadol fel hyn yn boblogaidd yn yr 19eg ganrif hyd at yr 1870au. Defnyddiwyd pyrsiau o siâp tebyg yn y canrifoedd cynt. Fe’i hadnabuwyd fel pyrsiau hosan, waled neu gybydd a gallasent yn hawdd cael eu cadw mewn pocedi, eu hongian dros wregys neu eu gafael efo llaw. Roeddent fel arfer wedi cael eu gwneud drwy wau, eu crosio neu rwydo, ac weithiau drwy bwytho darn o ddefnydd. Cynhwysai’r rhan fwyaf ohonynt waith gleinio manwl yn y prif ddarn a’r ymylon. Fe’i defnyddiwyd gan ddynion a merched.
Gwnaethpwyd silindr, gan adael hollt ochr yn y canol, a oedd wedyn yn cael ei ymestyn ar estynnydd pwrs arbennig. Gosodwyd dwy ddolen metal a gwnïwyd y pennau. Weithiau roedd un pen wedi casglu a’r pen arall yn cael ei gadw’n wastad – roedd yn bosib gosod tasel a rhimynnau i’r pennau. Rhoddwyd ceiniogau drwy’r hollt a’u gosod i’r ddau ben – gan osgoi’r dolenni metal. Pan oedd y ceiniogau wedi cyrraedd pennau’r pwrs, symudwyd y ddolen fetel priodol ar ei lawr i ddal y ceiniogau mewn lle a’u hatal rhag dod allan yn ddamweiniol. Fe’u galwyd yn byrsiau cybydd gan fod un pen yn gallu cynnwys on un geiniog – wedyn fe fuasai’r pwrs yn ymddangos yn wag pan fuasai’r geiniog yn cael ei dynnu allan.
Roedd cylchgronau merched yn yr 19eg ganrif yn aml yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i wneud pyrsiau, ac fe’i hystyriwyd fel anrheg da iawn i ddynion. Roedd prosiectau brodwaith yn boblogaidd iawn yn yr 19eg ganrif ac roedd gan gylchgronau hefyd cyfarwyddiadau ar sut i wneud capiau ysmygu a chodau. Mae gan Storiel enghreifftiau o’r rhain yn y casgliad enfawr o ategolion gwisgoedd, y rhan fwyaf sydd yn y storfa ond mae rhai sydd yn gallu cael eu gweld wefan Storiel o dan y casgliadau ar lein.