Potyn melltithio

Darganfuwyd y potyn yma ym mis Hydref 1871 wedi ei gladdu mewn clawdd pridd gan labrwr a oedd yn symud hen ffens ar Fferm Penrhos Bradwen, Penrhos, Caergybi. Mae’n cynnwys cwpan ddu dolciog (neu grochan bach) ac ar yr amser y’i claddwyd, roedd ynddi lyffant byw ac ynddo 40 o binnau (roedd y sgerbwd a’r croen yno yn 1871, ond maent wedi’u colli ers hynny). Roedd y gwpan wedi’i gorchuddio â llechen ac roedd enw’r person i gael ei melltithio arni “Nanny Roberts” wedi ei grafu ar bob ochr.

Yn ôl traddodiad melltithiwyd person trwy roi broga byw llawn o binnau i mewn i botyn bach a’i orchuddio hefo llechen hefo enw’r dioddefwr/wraig yn cael ei osod ar ei ben. Claddwyd y cwbl. I chwalu’r felltith roedd yn rhaid i’r dioddefwr ddod o hyd i’r potyn. Ar adegau roedd y broga wedi ei losgi neu foddi, gan wneud chwalu’r felltith yn amhosib.

Y person oedd yn gyfrifol am gofnodi hyn oll ac am gadw’r dystiolaeth oedd AS Ynys Môn, yr Anrhydeddus W.O.Stanley, ac fe ysgrifennodd y cwbl yn Notes and Queries 30 Mawrth 1872. Mae’n debygol mai ef oedd perchennog tŷ y sawl oedd yn melltithio a’r sawl oedd yn cael ei melltithio, ond nid yw’n datgelu beth oedd achos yr elyniaeth.

Roedd yr arferiad o ymweld â ffynhonnau ar gyfer eu pŵer adferol, iachusol wedi bod mewn lle yng Nghymru am ganrifoedd. Dim ond yn ail hanner yr 18fed ganrif y datblygodd defnyddio ffynhonnau i fwrw melltithio a pharhaodd am tua chan mlynedd yn unig. Yn ôl traddodiad gwerin, roedd y ffynhonnau i dde Môn yn cario pwerau melltithio, ac roedd ffynnon Penrhos i fod i gael pwerau adferol yn ogystal â melltithio. Erbyn canol yr 19eg ganrif, roedd galw mawr am y ffynnon gan achosi difrod i’r eiddo o’i chwmpas a dinistriwyd y ffynnon gan y ffermwr oedd berchen y tir ble’i lleolwyd trwy ei draenio.1

Fe’i rhoddwyd i’r Amgueddfa yn 1944 ac mae’n cael ei harddangos yn Oriel 4.

  1. Cursing and Blessings at the Holy Wells of Anglesey by Rita Singer, 2021