Potel gwin

Mae’r botel gwin yma sydd wedi ei chwythu hefo llaw yn dyddio o’r 1730au ac mae ganddi sêl wedi ei osod hefo ‘W.W.Lasynys’ wedi ei argraffu arno. Mae’n debyg ei bod wedi dod o dŷ y Lasynys (neu Lasynys Fawr) ger Harlech, man genedigaeth Ellis Wynne (1671-1734), clerigwr ac awdur y darn rhyddiaith glasurol nodedig Cymreig Gweledigaetheu y Bardd Cwsc, a argraffwyd yn gyntaf yn Llundain yn 1703. Galwyd ail fab Ellis Wynne yn William Wynn (1704-1761). Roedd o hefyd yn glerigwr. Gallasai’r priflythrennau W.W. gyfeirio fod y botel yn perthyn iddo fo.

Dechreuwyd gwneud poteli gwin fel hyn ym Mhrydain yn 1660. Roeddent yn cael eu chwythu hefo llaw ac roedd y gwaelod llydan a thew hefo cilfach yn eu gwneud yn sefydlog a chryf. Atgyfnerthwyd y gwddf tenau ar y top hefo ymyl o wydr wedi ei osod oedd yn galluogi’r corcyn fod yn ddiogel hefo edau neu weiren. Roedd y sêl wedi ei osod hefo enw’r perchennog neu’r priflythrennau yn personoli’r botel. Mae’r math yma o siâp yn un o’r rhai hawsaf i’r chwythwr gwydr ei gynhyrchu – swigen o wydr hefo gwddf tenau. Ar gychwyn y 19eg ganrif dechreuwyd storio poteli ar eu hochrau a defnyddiwyd poteli culach hefo ochrau silindraidd.

Rhoddwyd y botel i’r Amgueddfa gan y Brigadydd J.M.J. Evans, C.B.E., M.C. Broom Hall, Chwilog yn 1946.