Pôs Ewrop, wedi ei ddatgysylltu

Galwyd y jig-so cynnar yn ‘bosau wedi eu datgysylltu’ ac roeddent yn brintiadau wedi eu gosod ar bren ac wedyn yn cael eu torri gyda llaw yn ddarnau oedd yn ffitio i’w gilydd. Cynhyrchwyd posau wedi eu datgysylltu yn yr 18fed ganrif i ddibenion addysgu yn hytrach na fel teganau, ac roeddent yn cynnwys pynciau addysgiadol. Eu pwrpas oedd gwneud dysgu’n ddifyr. Crëwyd y pos map wedi ei ddatgysylltu cyntaf i blant gan John Spilsbury, ysgythrwr mapiau o Lundain, yn y 1760au.

Gwnaethpwyd y pos yma, “Wallis’s New Map of Europe, divided into Empires, Kingdoms & etc …..” a gyhoeddwyd Medi 14 1789, gan John Wallis (fy farw1818); roedd yn werthwr llyfrau, printiadau a mapiau oedd hefyd yn gynhyrchiol iawn yn cynhyrchu gemau bwrdd i blant yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Parhawyd y busnes gan ei feibion. Mae’n nodweddiadol o’r math cynnar o bosau a ddefnyddiwyd i ddysgu daearyddiaeth.

Mae’r map yn Storiel yn cynnwys delwedd o Ewrop, ond mae Gwlad yr Ia, Yr Alban, Cymru, Iwerddon, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Y Swisdir, Corsica, Sardinia a Sisili ar goll. Mae map cyffelyb yn Amgueddfa Plentyndod V&A, Bethnal Green, Llundain.

Ymddangosodd posau cardbord yn hwyr yn y 1800au, ond roeddent yn araf i ddisodli’r rhai pren. Mae’r term ‘jig-so’ yn cyfeirio at y llif ffret a ddefnyddiwyd i dorri’r darnau, a defnyddiwyd y term o’r 20fed ganrif. O’r 1930au, datblygodd y jig-so i fod yn fwy cymhleth gan apelio at oedolion, a chynyddodd ei boblogrwydd. Ar ôl y Ail Ryfel Byd bu gwelliannau mewn cynhyrchu gan wneud y jig-so papur ar fwrdd yn haws i’w gael. Bu i boblogrwydd y posau jig-so gynyddu yn ystod y cyfnodau clo diweddar.

Mae pos ciwb yn cynnwys delwedd o’r map yma ar gael yn Oriel 4.