Portread o George Harry Sharpe, llun olew

Roedd George Harry Sharpe (1862-1879) yn gweithio yn Chwarel yr Eifl, Trefor. Dechreuodd weithio yna yn ystod ei arddegau, ond gwaetha’r modd bu farw pan yn 17 ar ôl ei anafu mewn damwain ddifrifol yn y chwarel. Symudodd y teulu Sharpe o Mount Sorrel, Swydd Gaerlŷr, i weithio yn chwarel yr Eifl, tua diwedd yr 1860au. Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd George  Harry Sharpe, 8 oed, yn byw yn Rhes Trefor gyda’i dad Joseph Sharpe (gwaith Chwarelwr Cerrig), a’i fam Anne Sharpe a phedwar brawd a chwaer. Cofnodwyd ei gladdedigaeth ym mynwent Llanaelhaearn 16eg Gorffennaf 1879. Arhosodd y teulu yn Nhrefor ac roedd ei dad yn fforman yn y Chwarel hyd at ei ymddeoliad yn y 1900au cynnar.

Ni wyddom pwy yw’r arlunydd ond gallai fod yn beintiwr wrth grefft. Rhoddwyd y darlun i Storiel gan un o’i ddisgynyddion.

Agorwyd chwarel Trefor yn 1850 gan Samuel Holland, ac enwid y chwarel yn ogystal â’r pentref ar ôl arolygydd y chwarel, Trevor Jones. Prif gynnyrch y chwarel oedd setiau gwenithfaen a anfonwyd i Lerpwl a dinasoedd eraill ar gyfer palmentydd. Yn 1911 ymunodd chwareli Penmaenmawr, Llanfairfechan a rhai’r Eifl i ffurfio ‘Penmaenmawr and Welsh Granite Co. Ltd.’ Datblygodd chwarel Trefor i fod yn chwarel gwenithfaen mwyaf yn y byd erbyn y 1930au. Bu i’r chwarel gau yn 1963.

Gellir gweld yr eitem yma yn arddangosfa CASGLU A CHADW yn STORIEL hyd nes 31 Rhagfyr, 2021.

©Gwasanaeth Archifau Gwynedd Archives Service.