Plac Coffa Gwlad Belg

Cyflwynwyd y plac coffa yma i ddinasyddion Bangor gan ffoaduriaid o Wlad Belg ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, i ddiolch iddynt am eu lletygarwch. Mae plac pres wedi’i ysgythru ar waelod y ffrâm yn darllen:

‘PRESENTED TO THE BANGOR CITIZENS BY THE BELGIAN REFUGEES

IN KIND REMEMBRANCE FOR THEIR GENEROUS HOSPITALITY

OFFERED TO THEM DURING THEIR EXILE IN THE WAR

1914-1918’

Mae’r arfbais ar wahân ar frig y plac yn darllen ‘L’Union Fait la Force’. Mae’r panel wedi ei guro wedi ei wneud o aloi copr, yn dangos angel neu sant fel ffigwr benywaidd yn agosáu at ddau filwr clwyfedig yn gorwedd o dan helygen wylofus ar ôl i’r frwydr ddod i ben. Mae ‘Ypres’ wedi cael ei ysgrifennu ar y faner y tu ôl i’r ffigwr sy’n sefyll.

Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ffodd dros 1.5 miliwn o Wlad Belg oddi wrth y fyddin Almaeneg. Dechreuodd y rhyfel heb lawer o rybudd a bu rhaid i lawer o deuluoedd ffoi eu cartrefi ar droed gyda pha bynnag eiddo y gallent ei ddal, Cyrhaeddodd tua 250,000 o ffoaduriaid o Wlad Belg ym Mhrydain a chawsant groeso brwd gan gymunedau ar draws y wlad. Darparwyd tai a bwyd o wirfodd. Roedd y Llywodraeth hefyd yn hapus i’w defnyddio i hyrwyddo teimladau gwrth-Almaeneg a gwladgarwch.

Daeth dros 60 o ffoaduriaid Gwlad Belg i Fangor, sawl un yn aros mewn tai a ddarparwyd gan yr Arglwydd Penrhyn. Mae llythyr o 1914 i bapur newydd Gwlad Belg, a ysgrifennwyd i roi gwybodaeth am leoliad rhai o’r ffoaduriaid, yn rhestru enwau’r rhai oedd yn byw yn Wellfield (safle siop wag Debenhams erbyn hyn), un o dai’r Arglwydd Penrhyn. Mae’n nodi bod 32 o bobl yn byw yna –‘There are 10 rooms and 5 lounges, all furnished especially for us, not even a piano is missing!….. All weeks we receive rabbits and hares, shot in the hunting grounds of our noble lord.’ It continues ‘The population is especially sweet towards us. We are invited to theatre and cinema shows, car and boat rides, etc.’.

Gwnaethpwyd y plac yn Antwerp gan A. H. Bellens ac mae ei enw wedi ei ysgythru yn amlwg ar yr ochr chwith. Roedd ei nai, Monsieur Bellens, yn ffoadur a weithiodd am dair blynedd a hanner yn y Picturedrome Bangor fel gweithredwr. Tra ym Mangor gwnaeth sawl cyfaill a cyn iddo fo a’i deulu ddychwelyd i Wlad Bel gyn 1919 cynhaliwyd cyngerdd codi arian ar eu cyfer. Mae’r North Wales Chronicle yn adrodd ar 17eg Ionawr 1919, ‘A programme as varied as it was excellent was given. Mr H. T. Williams as usual got a boisterous reception for his topical comic songs: Mr Tegid Davies induced the audience to join in a chorus song with two or three verses applicable to the Belgians: Mr Land played a couple of concertina solos in fine style; and Miss Bessie Edwards gave a couple of ballads in a manner that greatly please the audience. In a few remarks, the Mayor (Mr R. J. Williams) referred to what the city had done for the Belgian Refugees, though they owed a deep debt to the Belgian nation.’

Am fwy o wybodaeth hynod ddiddorol am ffoaduriaid o Wlad Belg yng ngogledd Cymru gweler https://refugeesinrhyl.wordpress.com