
Organ bwmp cludadwy a ddefnyddiwyd gan Tom Nefyn yn ystod ei gyfarfodydd pregethu yn y 1950au. Mae’n organ un allweddell, tri octif yn cael ei weithredu hefo pedal. O bosib ei bod wedi cael ei defnyddio yn ystod ei gyfnod ym Methesda.
Ganed Thomas Williams, ‘Tom Nefyn’ yn 1895 ym Moduan ac fe’i magwyd ar fferm deulu Bodeilias yn ardal Pistyll, Llŷn. Roedd yn fab i John Thomas, bardd lleol adnabyddus, a’i wraig Ann. Yn llanc ifanc roedd Tom yn gweithio ar y fferm ac yn y chwarel ithfaen Yr Eifl, ac fel nifer arall fe ymunodd â’r fyddin pan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar ôl dychwelyd o’r rhyfel, wedi profiadau erchyll yn y ffosydd lle gwelodd frwydro yn y Dardanelles, Ffrainc, yr Aifft a Phalestina, roedd Tom Nefyn yn heddychwr selog. Ysgrifennai farddoniaeth, ysgrifau ac erthyglau a chyhoeddwyd llawer yn Y Goleuad. Roedd yn adnabyddus fel efengylydd.
Cafodd ei ordeinio yn 1925 a daeth yn weinidog gyda’r Eglwys Bresbyteraidd yn y Tymbl ger Llanelli.
Byddai ei bregethau yn cynnwys sylwadau personol ar faterion cymdeithasol -cyflogau a chyflwr byw’r glowyr, ac o’r herwydd cwestiynodd yr Eglwys ei gydymffurfiaeth gyda’u hathrawiaethau hwy gan ddod ac achos yn ei erbyn. Daeth Tom Nefyn yn ffigwr adnabyddus yng Nghymru oherwydd hyn. Yn 1932 cafodd ei alw yn weinidog i Rosesmor, y Fflint ac ymhen amser dychwelodd yn ôl i ardal Sir Gaernarfon. Yn 1946, daeth yn gyfrifol am eglwysi Llŷn.
Roedd yn efengylu ag arddull arbennig ei hun a dros y blynyddoedd bu’n pregethu a chanu mewn capeli, neuaddau pentref, ffeiriau a chyfarfodydd awyr agored gan ddenu cynulleidfaoedd mawr. Bu farw yn 1958 ac fe’i claddwyd yn Edern.
Mae’r organ i’w gweld yn Oriel 4 ‘Bywyd a Gwaith’ yn Storiel.