Marchnad Porthmadog gan Colin Palmer

(llun olew)

Golygfa nodweddiadol o’r farchnad, a gynhaliwyd ar ddydd Gwener, ym marchnad Heol y Parc, Porthmadog, a baentiwyd tua’r 1980au. Bydd pobl sy’n ymweld â’r farchnad heddiw yn gweld mai ychydig iawn o newid a fu dros y blynyddoedd.

Ganed Colin Palmer (1931-2016) yn Sir Benfro ond bu’n byw yn y gogledd am y rhan fwyaf o’i oes, yn gweithio fel athro ac artist. Byddai’n arddangos ei dirluniau’n rheolaidd. Dyma gyfres o bedwar llun olew o Borthmadog gan Palmer a roddwyd i Storiel yn ddiweddar. Y lleill yw Cei Greaves – Y Swyddfa Lechi, Yr Hen Ysgol a’r Hen Dynfad Ager .