Llwyau caru

Llwyau caru wedi ei cerfio â llaw, 19eg ganrif. Nid yw’n glir pa bryd y dechreuwyd gwneud llwyau caru yng Nghymru, ond mae’r enghreifftiau cynharaf ohonynt yn dyddio o’r 17eg ganrif. Fe’u rhoddwyd fel arwydd o serch i gariadon ac roedd pob llwy yn unigryw.

Mae yna sawl llwy garu yng nghasgliad Storiel ac maent yn adlewyrchu crefftwaith cywrain gweithwyr lleol. Roedd y llwyau caru cynnar yn cynnwys symbolau rhamantaidd fel calonnau, diamwntiau a motiff olwynion.

Mae’r broses o wneud llwyau caru yn parhau ond erbyn heddiw maent yn cael eu defnyddio mwy fel rhoddion i ddathlu digwyddiadau.

Mae dyddiad gŵyl nawddsant y cariadon yng Ngymru – Santes Dwynwen yn disgyn ar yr 25ain Ionawr. Yn y canol Oesoedd byddai nifer fawr o bererinion yn ymweld ag allor ac eglwys y santes ar Ynys Llanddwyn ym Môn. Byddai cariadon hefyd yn teithio yno i gael rhagweld eu dyfodol – byddent yn edrych i lawr Ffynnon Santes Dwynwen ac yn astudio symudiad y llyswennod neu’r pysgod ynddi.

Mae’r llwyau caru yma’n cael eu harddangos yn cas digwyddiadau bywyd yn Oriel 4.