Lluniau o’r Rhyfel Cartref yn Sbaen

Lluniau a dynnwyd gan blant o Wlad y Basg yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Dyma ddetholiad o luniau a ffotograffau yn dangos effeithiau’r bomio a ddefnyddiodd John Williams Hughes i godi ymwybyddiaeth o’r Rhyfel Cartref a bywyd o dan gyfundrefn Franco. Roedd yn newyddiadurwr gyda’r BBC a gwnaeth lawer o adroddiadau am yr anghyfiawnder a welodd wrth weithio yn Sbaen.