Llechi Cerfiedig

Lluniwyd y rhan fwyaf o’r cerfiadau hyn yn hanner cyntaf yr 19eg ganrif a chawsant eu dylunio a’u cerfio gan chwarelwyr. Mae’r rhan fwyaf i’w canfod yn Nyffryn Ogwen, neu yng nghartrefi chwarelwyr a fu’n gweithio yn Chwarel y Penrhyn. Maent yn amrywio’n fawr o ran arddull, o gylchoedd cydganol i batrymau ‘sampler’, i sgorau llawrydd manwl o gerddoriaeth. Mae adar, blodau, calonnau, llestri, pobl, patrymau cregyn, adeiladau, cerddoriaeth a chlociau ymhlith y gwrthrychau a bortreadir ar yr aelwydydd llechen hyn. Rhydd pob un ohonynt gipolwg ar fywyd pobl o’r cyfnod a’r pethau hynny roedd y chwarelwyr yn rhoi gwerth arnynt neu yn eu mwynhau. Tra mai amgylchynau tân yw’r rhan fwyaf o’r hyn sydd wedi eu darganfod hyd yma, ceir llechi main hir a ddefnyddiwyd i’w rhoi dan y dreser. Ceir hefyd wrthrychau addurnol cerfiedig llai megis y ffan lechen a dodrefn bychanig addurnedig

Daeth y llechen hon o gartref John Parry, y cerddor a gyfansoddodd y gân ‘Cyfeillgarwch’. Credir i’r gerddoriaeth gael ei cherfio’n arbennig ar gyfer ei le tân. Gellir ei gweld yn y cas Diwylliant a Thraddodiadau yn oriel 4.

Cydnabyddir y llechi cerfiedig fel ffurf o gelfyddyd werin a gwelir esiamplau pellach yn oriel Cysylltiadau yma yn Storiel.