Bag gwaith Merched Llangollen

Credir mai ‘Merched Llangollen’, Plas Newydd, Llangollen oedd perchennog y bag gwaith melfed du, smart hwn. Mae’r Fonesig Eleanor Butler (1739-1829) a Sarah Ponsonby (1749-1831) bellach yn cael eu dathlu fel cwpl ffyddlon – er nad yw union natur eu perthynas yn hysbys. Buont yn byw gyda’i gilydd am dros 50 mlynedd ym Mhlas Newydd, Llangollen ar ôl eu dihangfa yn 1778. Er cael eu halltudio ar y cychwyn gan eu teuluoedd Gwyddelig am eu perthynas gywilyddus, daethant yn fyd-enwog ar ddechrau’r 19eg ganrif a byddai rhai fel William Wordsworth, y Fonesig Caroline Lamb a Dug Wellington yn ymweld â nhw. Fe wnaeth Anne Lister (Gentleman Jack) o Swydd Efrog ymweld â nhw, a chredir iddynt ei hysbrydoli i briodi ei chariad benywaidd. Dymunai’r Frenhines Charlotte weld eu bwthyn, a pherswadiodd y Brenin Siôr III i ddyfarnu pensiwn iddynt.

Prynwyd y bag ar ôl eu marwolaeth mewn arwerthiant ym Mhlas Newydd gan Mr F Holland, gwerthwr hen bethau yn Llandudno. Fe’i rhoddodd i ‘bazaar’ codi arian yng Nghricieth lle prynwyd ef am bum punt gan Mrs James Lever. Yn ddiweddarach rhoddodd ei merch Miss Hughes ef i’r Amgueddfa.

Bydd Storiel yn rhan o ddetholiadau Pride Gogledd Cymru ym Mangor ar 25ain Mehefin, mae fwy o fanylion yma Diwrnod Balchder – Storiel (Cymru)