
Gawsoch chi’r profiad o adael eich het neu ymbarél mewn man cyhoeddus ond pan ddaw yn amser gadael maent wedi diflannu? Mae’n amlwg bod hon yn broblem i Gymry’r 18fed a’r 19eg ganrif yn ogystal wrth dynnu eu hetiau pan yn mynd i mewn i lefydd cyhoeddus
Roedd het yn eitem gostus gyda phrisiau yn amrywio o 8 – 16 swllt yn siop Morris and Son y Bermo rhwng 1860 a 1861. I geisio taclo’r broblem, roedd rhai perchnogion yn mynd ati i argraffu labeli i’w gludo tu fewn i’r het. Ar y label, byddent yn nodi eu henw ac yn ychwanegu pennill o rybudd i unrhyw ddarpar leidr.
Mae gan Storiel ddwy enghraifft yn y Casgliad.
Mae’r label cyntaf yn dwyn y teitl ‘Dial’ ac fe’i argraffwyd gan David Hughes Llansantffraid . Awgrymir yn y bennill bod y perchennog wedi gosod drain yn ‘ffunen’ yr het, sef band mewnol yr het. Mi fyddai unrhyw un a fyddai’n meiddio gwisgo’r het yn cael ei bigo a’i ‘bendroni’.
Mae’r ail label yn nodi perchennog yr het fel D. Evans. Mae’r rhybudd ar y label yma yn dipyn mwy bygythiol. O ddal unrhyw leidr yn gwisgo’i het mae’r perchennog yn bygwth iddo ‘cur yn dy ben, poen yn dy dalcen, cywilydd ar dy wyneb.’
Tybed a lwyddodd y perchnogion i ddal eu gafael ar eu hetiau?!