Jwg pôs

Roedd jygiau pos yn creu adloniant yn yr 18fed a’r 19eg ganrif ac roeddent yn boblogaidd yn y cartref a thafarndai. Yr enghraifft gynharaf a wyddys amdano yw jwg pôs Exeter a wnaethpwyd yn Saintonge, gorllewin Ffrainc o ddeutu 1300 a sydd bellach yn Amgueddfa Coffa Royal Albert yn Exeter.

Mae’r jwg pôs yma, 1738, a wedi ei wneud o grochenwaith gwydredd tin. Dywed y bennill ar y jwg ei hun; ‘Here Gentlemen come try yr skill I’ll hold a wager if you will That you Don’t Drink this Liqr all Without you spill or let some fall’

Marciwyd gyda ‘W.W. 1738’ ar y gwaelod.

Mae gan y jwg ddelltwaith agored yn y rhan uchaf ac mae’n ymddangos y byddai unrhyw ymdrech i dywallt ei gynnwys yn creu llanast. Mae’r ymyl uchaf yn grwn gyda 3 phig o amgylch yr ymyl. Y tyllau yw’r allwedd i sut i yfed ohono heb golli dim: mae’r yfwr yn sugno’n gryf o’r pig canolog gan orchuddio’r 2 big ochr gyda’i fysedd. Daw’r hylif allan o dwll yng ngwaelod yr handlen tu fewn i’r jwg, gaiff ei dynnu i fyny drwy sugno i’r twll uchaf, fel yfed trwy welltyn.

Mae’n debyg mai yn Lerpwl y gwnaethpwyd y jwg. Roedd yn rhan o gasgliad amgueddfa Capten Jones. Roedd John Jones (1798 – 1876) yn gapten llwyddiannus o Lerpwl a fu’n casglu pethau o bedwar ban byd ac a sefydlodd ei amgueddfa ei hun ym Mangor yn 1848 wedi ei lleoli ar y Stryd Fawr, ar waelod Lon Pobty. Yn 1870, rhoddwyd yr amgueddfa i Ddinas Bangor ac yn 1909 symudodd i ystafelloedd a oedd newydd eu codi y tu ôl i’r llyfrgell newydd yn Ffordd Gwynedd. Yn 1940 cafodd yr Amgueddfa yr unig bethau oedd ar ôl o gasgliad Dinas Bangor.

Mae’r jwg yn cael ei arddangos yn y cas Hamdden yn Oriel 4.