
Mae’r darn serameg yma yn rhan o gyfres o ferched Cymreig serameg, sef y casgliad Stereoteip gan Lowri Davies. Prynwyd y casgliad yma fel rhan o gasgliad ehangach i Storiel trwy garedigrwydd Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes. Roedd yn rhan o arddangosfa’r celfyddydau gweledol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn Y Faenol, 2005.
Mae’r serameg eraill o ferched Cymreig mewn lleoliadau gwahanol yn cynnwys Te Parti, Pwt ar y bys, Y Côr, Ysu am gael urddo ac Yn y gegin.
Prynwyd darnau eraill o waith ar yr un pryd, sef cofroddion a oedd yn rhan o arddangosfa “Eryri”. Comisiynwyd yr artist o Borthmadog, Elfyn Lewis, i drefnu’r arddangosfa yma er mwyn ystyried y cysyniad o “gynefin” – o ymdriniaeth artistiaid o dirwedd Eryri i fynegiant gweledol trigolion ardal y chwareli i’w hamgylchedd. Cyfrannodd Lowri Davies i’r arddangosfa drwy greu casgliad o waith sy’n seiliedig ar nwyddau a geir yn siopau anrhegion Eryri.
Ganwyd Lowri Davies ym Mhontypridd ac fe’i magwyd yn Aberystwyth. Graddiodd o Ysgol Gelf Caerdydd yn 2001 ac yn yr un flwyddyn derbyniodd ysgoloriaeth Artist Ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol. Bellach mae’n gweithio o Stiwdio Glai Fireworks yng Nglanyrafon, Caerdydd.
Pan oedd Lowri yn 16 oed fe gollodd ei nain. Fe’i hysbrydolwyd hi gan gasgliad eang a adawodd ei nain ar ei hôl a oedd yn cynnwys, er enghraifft, gwrthrychau serameg domestig, cofroddion, clytweithiau a ffotograffau o’r teulu. Defnyddiodd Lowri’r rhain fel ysbrydoliaeth i’w gweithiau serameg. Yn gyffredinol mae ei gwaith yn ymdrin â hunaniaeth a Chymreictod fel merched yn y wisg Gymreig, y delyn, y genhinen Bedr, gan ychwanegu elfennau mwy cyfoes fel cyfeiriad at y “Super Furry Animals”.
Drwy ddefnyddio technegau adeiladu â llaw a chastio gyda slip mae Lowri’n creu gwrthrychau fel jygiau sydd yn cael eu haddurno a’i darluniau personol hi o flodau, gwrthrychau domestig a delweddau Cymreig. Deillia’r gwaith o gyfeiriadau at waith tsiena a arddangosir ar ddreser Cymreig a chofroddion serameg.
Mae’r darnau yma yn cyfrannu at yr themâu o hunaniaeth a thraddodiadau Cymreig sydd yn nodweddion cryf yng nghasgliadau Storiel.