
Gwisgwyd y gŵn ddawns reion pinc yma yn y Ddawns Arwisgiad swyddogol a gynhaliwyd yn Mhlas Glynllifon. Cynhaliwyd y Ddawns ar noswaith Arwisgiad Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon, Gorffennaf 1af 1969. Fe’i gwisgwyd gan fam y rhoddwr Meirionwen Jones, nyrs gynorthwyol yn Ysbyty Gallt y Sil. Roedd ei gŵr yn milfeddig y weinidogaeth yn Stâd Glynllifon a derbyniodd wahoddiad i’r ddawns. Yn anffodus ni chaniatawyd tynnu lluniau yn ystod y noson. Prynwyd y gŵn yn H.R. Phillips, siop gwisgoedd ar y Maes yng Nghaernarfon. Ymddengys iddi gael ei gwneud yn gyflym hefo llaw gan nad ydi’r tu mewn wedi cael ei gorffen i safon uchel ac nid oes label gwneuthurwr. Mae’n debyg bod yna archebion brys am gynau nos gan ferched lleol oedd wedi cael gwahoddiad i’r Ddawns.