
Gwisg nofio, 1920-30, gwlân wedi ei wau. Mae label y tu cefn i’r gwddf yn darllen ‘MERIDIAN INTERLOCK… THE PERFECT FABRIC FOR SENSITIVE SKINS … BRITISH MADE’
Mae gan wisgoedd nofio hanes diddorol gan eu bod yn adlewyrchu agweddau tuag at noethni a ffitrwydd. Yn 1860 gwnaethpwyd nofio noeth i ddynion yn anghyfreithlon. Roedd y Fictoriaid yn gweld unrhyw fath o ddatguddiad corff yn gywilyddus, ac roedd y gwisgoedd nofio a wisgwyd yn ddillad cotwm swmpus oedd yn gorchuddio’r corff i gyd ac a oedd yn gwneud nofio’n anodd.
Cyflwynwyd nofio i ferched am y tro cyntaf yn ystod Chwaraeon Olympaidd Haf 1912. Roedd merched o dros hanner y 17 gwlad oedd yn cymryd rhan yn gwisgo gwisgoedd nofio tyn a oedd yn gorchuddio’r rhan fwyaf o’r corff, ond a oedd dal yn cael eu gweld fel yn dangos popeth gan rai pobl, a bu i’r tîm o America dynnu allan o’r gystadleuaeth.
Yn ystod y 1920au a’r 30au daeth gwisgoedd nofio yn fwy addurniadol, a hefyd yn gorchuddio llai o’r corff.
Yn y 1940au a’r 1950au bu i ddeunydd artiffisial chwyldroi’r wisg nofio – roedd gwisgoedd nofio bellach yn sychu’n sydyn, a ddim yn plygu’n annifyr pan yn wlyb, neu’n crebachu pan yn rhy boeth.