Gwasgod

Roedd y wasgod ddeniadol yma o’r 1860au yn perthyn i ŵr o Landegfan, Ynys Môn. Mae’n nodweddiadol o wasgodau addurnol a wisgwyd gan ddynion yng nghanol 19eg ganrif. Mae gan Storiel gasgliad bychan, amrywiol o wasgodau yn y casgliad gwisgoedd. Mae marc arni efo enw’r siop ble y’i prynwyd: John Aronson, Bangor. Mewnfudwr Iddewig o Brwsia oedd John Aronson a bu ef a’i frawd Saul yn gwerthu nwyddau o ddrws i ddrws, cyn agor siop gofaint arian a gemwaith ym Mangor erbyn o gwmpas 1828. Mae gan Storiel oriawr boced arian yn dyddio i 1818, wedi ei arysgrifio Bangor 1399 S&J Aronson. Yn 1851 bu i John Aronson symud adeilad dwywaith ac roedd yn cael ei gofnodi yng Nghofrestr Etholiadol Bangor fel masnachu’n annibynnol mewn adeilad sydd bellach yn Fanc HSBC. Yn y 1850au a’r 1860au bu iddo gynhyrchu medalau Eisteddfodau, rhai a all for yng nghasgliad Storiel.

Yn y 19eg ganrif bu i lawer o Iddewon mewnfudo i Brydain i ddianc o erledigaeth De Ewrop. Sefydlodd dipyn ohonynt ym Mangor gan sefydlu busnesau llwyddiannus, a hefyd yn dod yn rhan o fywyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol yr ardal. Y ddau ffigwr enwocaf ym Mangor oedd Phillip Pollecoff a ymfudodd o Rwsia yn yr 1880au gan sefydlu siopau llwyddiannus ym Mangor, Caernarfon a Phwllheli – mae’r siop ddillad ym Mhwllheli dal yn bodoli – a Morris Wartski a agorodd siop gemwaith a dillad cywrain ym Mangor yn 1895. Dyma ddechreuad ymerodraeth gemwaith mawreddog Wartski a oedd yn arbenigo mewn wyau Fabergé yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Bu iddo elwa o nawdd Edward VII a’r 5ed Ardalydd Môn oedd yn gymeriad lliwgar. Daeth mab Morris Wartski, Isodore yn faer Bangor.

Mae pasbort Ymerodraeth Rwsiaidd Phillip Pollecoff yn cael ei harddangos yn Storiel yn Oriel 5.