George Henry Sharpe. c. 1879

(darlun olew)

Portread o George Henry Sharpe (1863-1879) a oedd yn gweithio yn Chwarel yr Eifl, Trefor yn yr 1870au. Gwaetha’r modd, bu mewn damwain ddifrifol yn y chwarel a bu farw o’i anafiadau yn ddim ond 17 oed. Rhoddwyd y darlun i Storiel gan un o’i ddisgynyddion. Symudodd y teulu Sharpe o Mount Sorrel, Swydd Gaerlŷr, i weithio yn chwarel ithfaen yr Eifl, Trefor, tua diwedd yr 1860au ac aros yn yr ardal. Ni wyddom pwy yw’r arlunydd ond gallai fod yn baentiwr wrth grefft.