
Potelaid o ddŵr o Ffynnon Cegin Arthur, Llanddeiniolen. Sefydlwyd cwmni KANSCO (King Arthur’s Natural Springs Company) yng Nghaernarfon i botelu a dosbarthu’r dŵr o ffynnon haearn ger Penisarwaen. Mae hon yn un o’r ychydig boteli sydd ar ôl. Roedd dŵr Ffynnon Cegin Arthur yn enwog am ei bwerau iachusol ers o leiaf yr 16eg ganrif. Bu Thomas Pennant wrth y ffynnon yn y 18fed ganrif a daeth i amlygrwydd am gyfnod byr gyda dyfodiad y rheilffordd a thwristiaid a phan gyhoeddodd meddyg lleol lyfryn yng nghanol y 19eg ganrif yn sôn am allu’r dŵr i iacháu pobl. Roedd sôn bod lawer o haearn, calch, magnesiwm, sodiwm a nitrogen yn y dŵr a bod blas olew arno. Mae’r cyfarwyddiadau ar gefn y botel yn awgrymu y dylid cymryd llond gwydr gwin dair gwaith y dydd.