
Er bod y ffrog gotwm hon yn edrych heddiw fel y gallai fod wedi dod o’r 1890au, dyma oedd y ffasiwn ddiweddaraf yn y 1970au. Bu i ffrogiau mini ildio i ffrogiau mai – ffrogiau blodeuog hirllaes, hiraethus a hetiau llipa brim llydan. Roedd Laura Ashley yn arloeswr yn y steil newydd. Mae ffrogiau blodau tebyg wedi bod yn ffasiynol iawn yn ystod haf 2023, a gofynnir am ddillad hŷn Laura Ashley ar-lein.
Gelwir y patrwm ffabrig yma yn ‘Peacocks’ a heddiw, fwy na 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae ar gael yn eang fel dyluniad papur wal. Dyluniodd Laura Ashley y ffabrig a’r ffrog, y ddau wedi’u hysbrydoli gan ddyluniadau cynharach o’r 19eg ganrif.
Ganed Laura Ashley yn 1925 yn ne Cymru a sefydlodd fusnes ffasiwn a chynllunio tai enfawr gyda’i gŵr Bernard, gan ddechrau ym 1953 ar fwrdd eu cegin yn Llundain. Hi oedd yn dylunio’r patrymau, a ddylanwadwyd yn drwm gan gotwm printiedig o ddechrau’r 19eg ganrif yn Amgueddfa Victoria ac Albert, a fo oedd yn eu hargraffu. Y cynnyrch cyntaf a wnaethant oedd sgarffiau printiedig a oedd yn boblogaidd yn syth, yn gwerthu trwy siopau’r stryd fawr a thrwy’r post. Gwisgodd Audrey Hepburn un yn y ffilm ‘Roman Holiday’ yn 1953. Symudodd yr Ashleys i ganolbarth Cymru a sefydlu ffatri yng Ngharno yn 1959 ar ôl i’w ffatri wreiddiol yng Nghaint gael ei gorlifo.
Mae gan ffrogiau cynnar, fel yr un hon, labeli yn dweud ‘Dyers and Printers, Made in Wales.’ Wrth i’r cwmni dyfu, newidiodd y labeli gwisg i ‘Made in Great Britain,’ ac mae enghreifftiau diweddarach yn cynnwys ‘Made in Romania’ a ‘Made in Holland’. Roedd y dillad wedi’u gwneud yn dda o ddeunyddiau naturiol cadarn fel cotwm y gellid eu golchi’n hawdd ac nad oeddent yn gwisgo’n gyflym – heddiw maent yn enghraifft wych o ffasiwn gynaliadwy, yn enwedig y darnau a wneir mewn ffatrïoedd lleol.

Mae gan Storiel gasgliad o wisgoedd Laura Ashley o’r 1960au i’r 1980au – tair ffrog, sgert, a chôt o’r 1980au. Mae gennym gasgliad mawr o decstilau ac rydym yn parhau i gasglu eitemau priodol hyd at heddiw. Dylunydd Cymreig oedd Laura Ashley, ac roedd y dillad Laura Ashley sydd gennym ni yn eiddo i bobl leol, a phob un heblaw’r got wedi eu gwneud yng Nghymru. Mae gennym hefyd nifer o ffrogiau a chwiltiau clytwaith o’r 19eg ganrif a darnau o ffabrig o’r 1800au cynnar a allai fod wedi bod yn ysbrydoliaeth i ddyluniadau Laura Ashley.