Ffrog briodas Elizabeth Morgan

Ffrog, 1730au, sidan, wedi’r brodio hefo llawn, yn debygol o Lloegr, wedi datgymalu, rhodd yn 1959.

Mae ymchwil diweddar i fywyd Elizabeth Morgan, gwraig i sgweier gwledig a oedd yn byw yn yr Henblas, Llangristiolus ym Môn yn y 18fed ganrif, wedi arwain at y sylweddoliad efallai mai dyma yw ei ffrog briodas oedd ar goll. Mae’n adnabyddus trwy ei dyddiadur garddio sydd wedi ei gofnodi’n fanwl o 1754-1772 sydd nawr yn cael ei gadw’n Archifdy Prifysgol Bangor.

Mae’r sgert yn cynnwys saith panel, pob un yn 103 x 41cm, wedi eu brodio’n gain hefo llaw hefo blodau cymysg a deiliach yn codi o bentwr bychan arddulliedig o bridd wrth odre’r defnydd. Mae’n bosib bod y patrwm wedi’i ddylanwadu gan ddyluniadau chintz Indiaidd neu waith criwl Seisnig o’r 17eg Ganrif hwyr.

Mae ffrog Elizabeth naill ai wedi cael ei datgymalu’n rhannol, ei haddasu, neu ei bod heb ei chwblhau erioed. Mae’n anodd datgan yn bendant mai dyma ei ffrog briodas, er gwaethaf teimladau ei disgynyddion yn y 1930au. Mae’n bosib ei bod wedi brodio’r panelau gyda’r bwriad o greu ffrog arferol yn steil gynau 1730 i’w gwisgo yn ei pharti priodas, a’i bod wedi ei gwisgo.

Mae’r ffrog yn cael ei harddangos yn Storiel tan Tachwedd 2ail 2019. Mae wedi ei harddangos er mwyn amlygu’r brodwaith o fewn cyfyngiadau’r câs arddangos hwn, ac i leihau’r amharu ar y ffrog. Ceir ynddi awgrym o siâp y ffrogiau llys a wisgid gan ferched aristocrataidd yn y llysoedd. Mae’n bosib y bu i’r ffrog gael ei hailwampio yn y modd yma fel gwisg ffansi ar ryw adeg yn ystod ei hoes. Oni bai y deuir o hyd i ddyddiadur coll sy’n adrodd hanes bywyd personol Elizabeth, bydd y darn hardd hwn o frodwaith yn parha yn ddirgelwch pryfoclyd o brydferth.