Ffrog a wisgwyd gan y Frenhines Fictoria

Mae’r ffrog, sydd yn cynnwys bodis a sgert ar wahân, wedi ei gwneud allan o sidan taffeta du wedi’i haddurno hefo les du a chrêp galar sidan du . Mae’r bodis wedi ei leinio hefo sidan du hardd, hefo asgwrn morfil yn y gwasg. Y tu mewn i’r ffrog ar gefn y gwddf a’r llewys ceir sgwariau o wlân wedi ei nyddu a’i orchuddio hefo sidan hufen, mae’n debyg er mwyn ei gwneud yn gynhesach.

Aeth y Frenhines Fictoria i alar dwys ar ôl i’w gŵr y Tywysog Albert farw yn 1861 a gwisgodd ddu am weddill ei hoes. Yn 1872 gwisgodd fandiau ffwr gwyn are ei ffrog mewn gwasanaeth Diolchgarwch a gynhaliwyd ar gyfer gwellhad Tywysog Cymru o glefyd teiffoid. Ar ôl hyn dechreuodd wisgo ychydig o les gwyn, perlau a diemyntau ar gyfer dyletswyddau swyddogol fel yr oedd ei galar yn encilio’n araf. Cafodd ei chladdu mewn ffrog wen a fel priodas, fel ei dymuniad cyn iddi farw. Gwisgwyd y ffrog yma yn hwyr yn y 19eg ganrif tuag at ddiwedd ei bywyd pan oedd wedi suddo o ran taldra i o dan 5 troedfedd, ac wedi ehangu o ran lled (mesuriadau gwasg 111cm). Mae ymdrechion wedi cael eu gwneud i ddyddio ffrogiau Fictoria yn gywir o ran mesuriadau taldra a gwasg.

Ar ôl ei marwolaeth yn 1901 rhoddwyd llawer o’i dillad i aelodau o Weision y Frenhines. Mae’r dillad sydd yn perthyn i’r Frenhines Fictoria yn Storiel wedi cael eu rhoi gan amryw o bobl, a rhoddwyd y ffrog i’r Amgueddfa yn 1952 gan Mrs H. V. Hughes o Lerpwl.

Mae’r ffrog yn cael ei harddangos yn Oriel 4 tan 2020.