
Roedd y ffonograff hwn sydd yn dyddio i o gwmpas 1925, yn perthyn i Mary Davies (Mair Mynorydd) 1855-1930. Ganed Mary yn Llundain, yn ferch i William Davies (Mynorydd 1826-1901), cerflunydd a cherddor o Ferthyr Tudful. Mabwysiadodd y ffugenw Mynorydd gan ei thad. Dechreuodd ganu mewn cyngherddau Cymraeg yn y brifddinas ac yn ddiweddarach ymunodd â’r Undeb Gorawl a oedd ar y pryd o dan arweiniad John Thomas (Pencerdd Gwalia, 1826-1913.
Enillodd Mary ysgoloriaeth i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol a daeth yn gantores oratorio a baled flaenllaw ei dydd, gan ymddangos mewn perfformiadau cyntaf o weithiau gan y cyfansoddwr Hector Berlioz yn Llundain a Manceinion. Roedd yn dysgu cerddoriaeth a daeth yn arholwr i’r Academi Frenhinol a’r Coleg Cerdd Frenhinol.
Yn 1888 priododd â William Cadwaladr Davies, Cofrestrydd cyntaf Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Hi oedd llywydd cyntaf Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a ffurfiwyd yn 1906, ac is-lywydd Cymdeithas Lyfryddol Cymru. Yn 1916 dyfarnwyd iddi radd anrhydeddus doethuriaeth mewn cerddoriaeth gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn 1929 dyfarnwyd iddi fedal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion am ei gwasanaeth i gerddoriaeth.
Mae ffonograff yn ddyfais ar gyfer recordio ac atgynhyrchu sain yn fecanyddol ac analog Yn ei ffurf diweddarach fe’i gelwid yn gramaffon ac o’r 1940au yn chwaraewr recordiau wedyn trofwrdd. Roedd corn yn rhan o’r ffonograff yma’n wreiddiol. Fe’i defnyddiwyd gan Mary Davies wrth ymweld â phentrefi Cymreig i gasglu alawon gwerin Gymreig.

Mae yna bortread o Mary Davies yng nghasgliad Storiel wedi ei beintio gan yr arlunydd James Cadenhead.