Dol gwisg Gymreig

Mae gan Storiel amrywiaeth o ddoliau yn y casgliad, o ddoliau Fictorianaidd i Sindy o’r 1960au, ond y rhai pwysicaf yw’r doliau gwisg Gymreig. Gwnaethpwyd doliau wedi eu gwisgo mewn gwisg Gymreig yn ystod y 19eg ganrif yn bennaf fel cofroddion. Roedd hefyd yn draddodiad i roi’r doliau yma yn rhodd i blant ac ymwelwyr enwog. Cyflwynwyd dol mewn gwisg Gymreig i’r Dywysoges Fictoria yn ystod ei hymweliad â Llangollen yn 1832.

Mae’r ddol yma’n dyddio o ganol yr 19eg ganrif, gyda pen mawr bisg, marc o bosib wedi ei gwneud yn yr Almaen a llygaid yn cysgu. O ganol yr 19eg ganrif, cynhyrchwyd doliau porslen neu tseina, yn bennaf yn yr Almaen a Ffrainc a defnyddiwyd bisg (porslen anwydrog) i greu wynebau cain. Roedd y ddol yma’n rhan o brosiect a wnaethpwyd yn 2011-2012 yn edrych ar 38 o ddoliau gwisg Gymreig o’r 19eg ganrif i ddadansoddi y defnydd a steil y wisg https://welshhat.wordpress.com/welsh-costume-dolls/

Mae doliau yn gyfarwydd fel y teganau mwyaf cyffredin a phoblogaidd. Yn ystod y canrifoedd, mae plant wedi chwarae hefo doliau a’u defnyddio fel ffordd o ddianc i fyd dychmygol. Mae’r doliau cyntaf yn dyddio’n ôl i’r Eifftiaid, a fe’i defnyddiwyd fel teganau yn yr hen Roeg a Rhufain. O’r Canol Oesoedd, dechreuwyd eu cynhyrchu yn Ewrop a bu i’w poblogrwydd gynyddu.

Yn ogystal â chael eu defnyddio fel teganau, defnyddiwyd doliau mewn defodau crefyddol a dewiniaeth. Defnyddiwyd delw cwyr ar ddarn o lechen o Ffynnon Eilian, Ynys Môn ar gyfer melltithio ac mae’n cael ei arddangos yn Oriel 4. Mae doliau hefyd yn boblogaidd i’w casglu.

Mae’r doliau o gasgliad Storiel i’w gweld mewn arddangosfa dros dro.